Mae fframiau dringo, siglenni, sleidiau, meinciau a mwy yn cael eu gosod mewn nifer o feysydd chwarae cymunedol ar draws Ceredigion, yn ogystal â gwaith cynnal a chadw mawr ei angen ar gyfarpar presennol.

Roedd mwy na £100,000 ar gael i Gynghorau Tref a Chymuned, sy’n berchen ar y meysydd chwarae hyn ac yn eu rhedeg, drwy Grant Cyfalaf Mannau Chwarae Llywodraeth Cymru sy’n cael ei hwyluso gan Gyngor Sir Ceredigion.

Mae’r meysydd chwarae yn rhan o Rwydwaith Mannau Chwarae Ceredigion sy’n cael ei hwyluso gan Gyngor Sir Ceredigion i gysylltu pawb sydd â diddordeb mewn chwarae neu sy’n berchen ar fan chwarae cymunedol neu’n ei reoli.

Mae gwaith eisoes wedi’i gwblhau ar gyflwyno a gwella unedau chwarae yn y Borth, Penrhyn-coch, Llandre, Tregaron a Llanbedr Pont Steffan; ffensys a meinciau picnic newydd yn Aberarth; a siglen fasged newydd yng Nghae’r Odyn, Bow Street.

Dywedodd un rhiant o Bow Street: “Mae’r siglen yn anhygoel. Alla i ddim credu’r gwahaniaeth y mae eisoes wedi’i wneud. Mae’r plant yn chwarae gyda’i gilydd yn hapus ac yn treulio llawer mwy o amser yn yr awyr agored.” 

Dywedodd Carwyn Young, Rheolwr Corfforaethol Canolfannau Lles Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym wrth ein boddau o weld cymaint o sefydliadau ledled y sir yn manteisio ar yr arian sydd ar gael i ddiweddaru cyfleusterau chwarae ar gyfer ein pobl ifanc. Maent i gyd yn edrych yn wych, ac eisoes wedi dod â chymaint o lawenydd i blant a theuluoedd lleol. Mae wedi eu hannog i dreulio mwy o amser yn yr awyr agored, sy’n cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles.”

Mae mannau chwarae eraill hefyd wedi derbyn arian grant drwy grant y Gronfa Gyfalaf Mannau Chwarae a bydd gwaith yn cael ei wneud dros y misoedd nesaf i gyflwyno unedau newydd neu ddiweddaru’r darpariaethau presennol. Mae’r mannau chwarae hyn yn cynnwys Plascrug, Aberporth, Trefeurig, Clwb Cledlyn Drefach, Beulah a Llandre.

Mae 74 man chwarae â chyfarpar yng Ngheredigion. Mae rhai yn fannau chwarae lleol ac mae rhai yn barciau cyrchfan ar gyfer diwrnod allan gwych i’r teulu. Ewch i wefan Dewis Cymru i ddod o hyd i’ch parc agosaf.

09/05/2022