Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynglŷn â symud i Lefel Rhybudd 2 o ddydd Llun, 17 Mai, rhoddir sicrwydd i deuluoedd preswylwyr Cartrefi Gofal y Cyngor fod cyfleoedd ymweld pellach yn cael eu hadolygu a'u datblygu ar hyn o bryd.

Bydd y Cartrefi Gofal yn cysylltu ag ymwelydd dynodedig y preswylwyr hynny sy'n derbyn gofal yn y gwely ar hyn o bryd i drefnu ymweliadau diogel dan do sydd wedi bod yn destun asesiad risg o ddydd Llun 17 Mai ymlaen.

Bydd ymwelwyr a phreswylwyr yn cael cynnig opsiynau ynglŷn â’r lleoliad sydd orau ganddynt ar gyfer yr ymweliad. Mae hyn yn cynnwys opsiynau ymweld diogel (er enghraifft Pod) neu yn yr awyr agored (os yw'r tywydd yn caniatáu). Bydd hyd yr ymweliadau yn cael ei ymestyn.

Yn rhan o'r darn pwysig hwn o waith, bydd holiaduron yn cael eu hanfon at deuluoedd. Bydd hyn yn sicrhau bod llais a dymuniadau preswylwyr yn cael eu cydlynu yn ganolog ac yn cael eu defnyddio i gefnogi’r gwaith o gynllunio a gweithredu unrhyw newidiadau.

Bydd diogelwch preswylwyr, staff a theuluoedd yn ganolog i'r holl gyfleoedd ymweld a fydd yn cael eu rhoi ar waith.

Mae'r holl Gartrefi Gofal yn edrych ymlaen at groesawu teuluoedd yn ôl.

14/05/2021