Mae un o drigolion Ceredigion yn ôl yn y gwaith ar ôl derbyn cefnogaeth gan Cymunedau am Waith a Mwy.

Ar ôl i Dwynwen Morgans gael ei diswyddo, trodd at Dîm Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion. Mae'r gwasanaeth hwn yn helpu pobl di-waith a chyflogedig i gael mynediad at hyfforddiant wyneb yn wyneb ac ar-lein wedi'i ariannu, profiad gwaith, cyfleoedd gwirfoddoli a swyddi.

Ar ôl cysylltu, neilltuwyd mentor Cymunedau am Waith a Mwy i Dwynwen, Delor Evans, i weithio gyda hi ar sail un i un. Helpodd Delor i adeiladu CV a llythyr cefnogi fel bod Dwynwen yn barod i ymgeisio am swyddi.

Dywedodd Dwynwen, “Roedd fy mentor Delor Evans yn barod iawn i helpu gan roi cyngor a rhoi gwybod imi am swyddi gwag addas. Cadwodd mewn cysylltiad ac anogaeth cyson yn ystod cyfweliadau ac opsiynau. Roedd hi’n sefyllfa bregus iawn gyda biliau i'w talu a dim incwm rheolaidd na chynilion i gefnogi'r teulu dros gyfnod o fisoedd. Roedd y gwasanaeth hwn o gymorth a budd mawr i mi fynd yn ôl i gyflogaeth fel derbynnydd ac ennill incwm rheolaidd unwaith eto.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi Dwynwen yn ôl i gyflogaeth. Mae cefnogaeth ymarferol fel hyn yn amhrisiadwy i bobl sy'n profi diweithdra, yn enwedig yn ystod yr amseroedd anodd hyn. Mae Cymunedau am Waith a Mwy yma i gefnogi trigolion Ceredigion.”

Mae Cymunedau am Waith a Mwy Ceredigion yn cael ei redeg gan swyddogion o Gyngor Sir Ceredigion ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Os hoffech ddarganfod mwy, ffoniwch un o’r mentoriaid ar 01545 574193, neu ewch i dudalen Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion.

17/03/2021