Mae dal gan unigolion, grwpiau, busnesau a sefydliadau yng Ngheredigion amser i gyflwyno syniadau arloesol i dîm Cynnal y Cardi.

Oes gennych chi syniad a arweinir gan y gymuned a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Ngheredigion? Nododd Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi (GLlI), sy'n gweithredu'r cynllun LEADER yng Ngheredigion, nifer o flaenoriaethau ac maen nhw eisiau clywed eich syniadau.

Mae yna nifer o flaenoriaethau, gan gynnwys sut rydyn ni'n gwneud Ceredigion yn lle unigryw lle mae pobl eisiau byw, gweithio ac ymweld; sut y gallwn gefnogi trefi farchnad Ceredigion gan eu gwneud yn lleoedd bywiog i ymweld â nhw; a sut y gallwn wneud mwy o asedau a thraddodiadau diwylliannol Ceredigion fel y gallwn gefnogi ein cymunedau a'n heconomi leol. Mae darparu cyfleoedd i bobl ifanc yn benodol hefyd yn allweddol ac rydym am greu diwylliant o entrepreneuriaeth, gan ddarparu cyfleoedd newydd i bobl wireddu eu huchelgeisiau o fyw a gweithio yng Ngheredigion.

Mae Covid-19 wedi gwneud 2020 yn flwyddyn anodd i'r sir. Mae Cynnal y Cardi, a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion, nawr eisiau adeiladu ar y cyfleoedd sydd wedi codi o Covid-19, trwy gryfhau a chefnogi cymunedau lleol, gan helpu i archwilio dulliau newydd; defnyddio cyfleoedd technoleg ddigidol a gyda chefnogaeth o gyflenwyr lleol, dod o hyd i ffordd ymlaen i gryfhau gwytnwch lleol.

Mae gweithio tuag at ddyfodol carbon isel yn flaenoriaeth arall i GGLl Cynnal y Cardi. I gyflawni hyn, a oes gennych unrhyw syniadau yn benodol sut y gall y sir wneud, defnyddio, ailddefnyddio, ail-wneud ac ailgylchu mwy!

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio, “Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i’r sir gyfan oherwydd y pandemig COVID-19 byd-eang. Bu llawer o heriau, ond rydym nawr eisiau adeiladu ar y pethau cadarnhaol a'r cyfleoedd sydd wedi dod i'r amlwg i wneud ein cymunedau, ein busnesau a Ceredigion yn hyd yn oed mwy gwydn ar gyfer y dyfodol.

Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi, wedi cefnogi tua 50 o syniadau a arweinir gan gymuned wledig gwerth cyfanswm o £1,368,000. Mae hyn wedi golygu treialu gweithgaredd newydd a dysgu'r gwersi pwysig o'r hyn a gyflwynwyd; ymgymryd â gwaith ymchwil trwy astudiaethau dichonoldeb ac astudiaethau cwmpasu; darparu hyfforddiant a mentora i unigolion ennill sgiliau newydd. Dyma'ch cyfle nawr i ddod â syniadau pellach ymlaen.

Cefnogir LEADER, sy'n ceisio cefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd neu heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig, trwy'r rhaglen Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020, a ariennir gan a Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'ch mynegiadau o ddiddordeb yw 18 Ionawr 2021. Mae croeso i gyflwyniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Cysylltwch â'r tîm i drafod eich syniadau. I gael mwy o wybodaeth am y blaenoriaethau ar gyfer cefnogaeth yn y dyfodol ewch i wefan Cynnal y Cardi, e-bost cynnalycardi@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881.

13/11/2020