Ar 13 Gorffennaf 2018, bydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn cymryd drosodd Siambr y Cyngor i gynnal sesiwn trafodaeth gyntaf yng Ngheredigion, wedi’i drefnu a’i arwain gan Gyngor Ieuenctid Ceredigion. Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i Gyngor Ieuenctid Ceredigion ofyn cwestiynau ynglŷn â materion sy'n effeithio ar bobl ifanc i banel o bobl sy’n dylanwadu ar benderfyniadau a pholisïau, ac ar bobl ifanc yn lleol ac yn genedlaethol.

Mae aelodau’r panel sydd wedi eu cadarnhau yn cynnwys Ben Lake AS; Sally Holland, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Cymru; Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys a Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes. Bydd y cwestiynau a gyflwynir gan y Cyngor Ieuenctid, yn cyfateb â phleidlais ‘Gwneud eich Marc’ a fydd yn digwydd yn hwyrach yn y flwyddyn ac yn rhan o’r Senedd Ieuenctid y DU.

Dywedodd Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Mae’n hollbwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i fynegi eu lleisiau a’r cyfle i drafod materion a phynciau sy’n eu heffeithio, gyda phobl sy’n dylanwadu penderfyniadau a pholisïau. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn edrych ymlaen at gefnogi’r Cyngor Ieuenctid i gynnal digwyddiad cyntaf o’r fath yng Ngheredigion ac yn edrych ymlaen at groesawu’r panel i’r Siambr yn Aberaeron.”

Dywedodd Beca Williams, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion, “Mae Cyngor Ieuenctid Ceredigion yn falch o’r cyfle yma i rannu ein pryderon a’n dyheadau am ein cymdeithas leol a chenedlaethol. Rydym wedi penderfynu gwahodd panel o bobl proffesiynol sy’n cynrychioli ac yn dylanwadu agweddau o fywydau pobl ifanc a bywyd ein cymunedau. Edrychwn ymlaen i gynnal y digwyddiad ac rydym yn hyderus y bydd yn llwyddiant ysgubol er mwyn creu dyfodol sy’n gynhwysol, cefnogol ac yn ysbrydoli twf a ffyniant!”

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod Eiriolwr ar gyfer Cydraddoldeb, “Rwy’n falch o Gyngor Ieuenctid Ceredigion am drefnu digwyddiad mor gadarnhaol a rhagweithiol i sicrhau bod gan y bobl ifanc o Geredigion y siawns i ddweud ei dweud ar faterion y gall gael cryn effaith arnynt naill ai yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn ymroddedig i sicrhau bod pawb yn y sir yn cael eu trin gyda’r un parch a bod gan bawb yr un cyfleoedd i gyfrannu tuag at sicrhau bod Ceredigion yn le gwell i fyw, gweithio, astudio a chwarae. Bydd y sesiwn trafodaeth yn gyfle gwych i sicrhau bod anghenion bobl ifanc yn cael sylw.”

Bydd Wil Rees, cyn Aelod Seneddol Ifanc Ceredigion yn arwain y digwyddiad, ac mi fydd yn cael ei agor a’i gau gan Beca Williams, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion a Heledd Evans, Is-Gadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion. Bydd cynrychiolwyr o bob Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion yn ogystal â cholegau a sefydliadau yn bresennol yn y gynulleidfa.

23/05/2018