Ar 13 Gorffennaf 2018, fe wnaeth Cyngor Ieuenctid Ceredigion gymryd drosodd Siambr y Cyngor i gynnal sesiwn trafodaeth gyntaf yng Ngheredigion, wedi’i drefnu a’i arwain gan Gyngor Ieuenctid Ceredigion. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i Gyngor Ieuenctid Ceredigion ofyn cwestiynau ynglŷn â materion sy'n effeithio ar bobl ifanc i banel o bobl sy’n dylanwadu a gwneud penderfyniadau.

Aelodau’r panel oedd Ben Lake AS; Sally Holland, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Cymru; Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys a Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes. Cafodd nifer o gwestiynau eu paratoi a’u cyflwyno gan aelodau o’r Cyngor Ieuenctid. Roedd y cwestiynau yn tynnu sylw at faterion megis Trafnidiaeth, yr Iaith Gymraeg, Cwricwlwm Gydol Oes, Cefnogaeth i Bobl Ifanc LGBT+, Diogelwch ar-lein a Phleidleisio’n 16. Roedd yna gynrychiolwyr o bob Ysgol Uwchradd, Coleg Ceredigion â mudiadau ieuenctid yng Ngheredigion yn bresennol yn y gynulleidfa.

Dywedodd Beca Williams, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion, “Fel Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion, roeddwn yn falch iawn o’r cyfle i drafod nifer helaeth o bynciau llosg gyda phanel hynod frwdfrydig a gwybodus. Roedd hi’n bleser i fod yn rhan o drafodaeth aeddfed a chynhwysfawr am amryfal faterion sy’n effeithio ar ieuenctid ein sir heddiw. Buodd presenoldeb nifer fawr o bobl ifanc Ceredigion yn hwb enfawr i lwyddiant y digwyddiad.”

Dywedodd yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, y Cynghorydd Catrin Miles, “Roeddwn i wrth fy modd i fod ar y panel ac i drafod pwyntiau pwysig sy’n effeithio ar bobl ifanc Ceredigion. Roedd safon ac aeddfedrwydd y drafodaeth yn eithriadol, sy’n galondid mawr at ddyfodol ein sir.”

Cafodd y digwyddiad ei agor a’i gau gan Beca Williams, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion, ac yn arwain y digwyddiad oedd Wil Jac Rees, cyn Aelod Seneddol Ifanc Ceredigion.

26/07/2018