Ar ddydd Gwener 5 Gorffennaf 2019, cynhelir Seremoni Wobrwyo Chwaraeon Ceredigion er mwyn cydnabod a rhoi clod i bobl am eu llwyddiant a’u cyfraniad arbennig tuag at chwaraeon yng Ngheredigion.

Trefnir y seremoni wobrwyo gan Gyngor Chwaraeon Ceredigion a Cheredigion Actif a bydd yn cael ei chynnal yn Siambr y Cyngor ym Mhenmorfa, Aberaeron o 2yp hyd at 4yp, lle bydd enillwyr pob categori yn cael eu cyflwyno gyda gwobr.

Mae Clybiau a Grwpiau Chwaraeon Ceredigion yn cael eu hannog i enwebu eu harwyr chwaraeon erbyn 6 Mehefin, 2019.

Gall aelodau o’r cyhoedd enwebu yn y categorïau canlynol; Gwobr Hyfforddwr y Flwyddyn, Gwobr Arwr Tawel, Gwobr Gwirfoddoli mewn Chwaraeon i Bobl Anabl, Gwobr Gwirfoddolwr Pobl Ifanc Egnïol y Flwyddyn, Gwobr Llysgennad Ifanc Efydd y Flwyddyn a Gwobr Llysgennad Ifanc y Flwyddyn.

Gellir enwebu drwy fynd ar wefan Ceredigion Actif a chwilio am ‘Gwobrau Chwaraeon Ceredigion’ lle gellir lawr lwytho ffurflen enwebu. Wedyn, bydd rhaid anfon ffurflenni enwebu yn ôl i Geredigion Actif.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r seremoni wobrwyo, cysylltwch â Steven Jones drwy e-bost ar Steven.Jones@ceredigion.gov.uk neu 01970633587.

23/05/2019