Mae Adran Drafnidiaeth y DU wedi rhoi cyllid i Lywodraeth Cymru ar gyfer adeiladu cyfnewidfa drafnidiaeth gyhoeddus newydd yn Bow Street. Mae’r cynnig yn cynnwys ailagor gorsaf drenau Bow Street a bydd yn cynnwys maes parcio, cyfleusterau beicio, cysylltiadau cerddwyr a safleoedd bws. Bydd y prosiect yn cael ei darparu gan Drafnidiaeth Cymru.

Hoffai Cyngor Sir Ceredigion gael adborth gan unigolion a sefydliadau sy'n cynrychioli pobl o fewn y grwpiau nodweddion gwarchodedig ynglŷn â hygyrchedd ac wedi paratoi cynlluniau sy'n dangos y cynigion presennol.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet dros Reoli Carbon, Cynaliadwyedd a Thrafnidiaeth, “Gyda’r cynlluniau arfaethedig ar Ymgynghoriad Teithio Ymgyfnewid Bow Street allan am ymgynghoriad hyd 13 Mai, mae’n bwysig iawn y bydd y datblygiad newydd yn hygyrch i bawb, yn benodol i bobl gydag anableddau. Mae’r ymgynghoriad wedi’i anelu at ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd ac yn rhoi cyfle i bawb ymateb i sicrhau gall y datblygiad newydd cyffrous hwn i’r ardal weithio i bawb. Edrychwch dros yr ymgynghoriad a rhannwch eich barn.”

Gellir ddarllen y cynlluniau wedi’u paratoi ar wefan y Cyngor ar dudalen Ymgynghoriadau. Gellir anfon ymatebion i’r ymgynghoriad trwy ebostio gwasanaethau.technegol@ceredigion.gov.uk. Ar gais, gellir gweld yr ymgynghoriad mewn fformat gwahanol. I ofyn am gopi o'r ymgynghoriad, ffoniwch 01545 570 881. Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg hyd 13 Mai 2018.

13/04/2018