Yn dilyn llwyddiant llynedd, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi bod yn ffodus i dderbyn bwrsari ariannol eleni eto, gan gwmni West Wales Holiday Cottages, er mwyn cefnogi pobl ifanc.

Bwriad y bwrsari yw cynnig cyfle gwerth £600 i bobl ifanc rhwng 11-25 i’w helpu i wireddu eu dyheadau ar gyfer y dyfodol. Dewisir y cais neu geisiadau llwyddiannus gan Fforwm Ieuenctid Ceredigion, sy'n banel sy’n cynnwys pobl ifanc o ledled Geredigion sy’n mynychu darpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion.

Dywedodd Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Rydym yn ddiolchgar iawn ac yn werthfawrogol i West Wales Holiday Cottages am roi'r cyfle hwn i bobl ifanc yng Ngheredigion eleni eto. Fel ein hunain, mae West Wales Holiday Cottages yn cydnabod y gall nifer o bobl ifanc sy'n byw yng Ngheredigion brofi anawsterau wrth gael mynediad at hyfforddiant, cefnogaeth a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd materion economaidd-gymdeithasol. Roedd y fwrsariaeth yn hynod o lwyddiannus y llynedd, gyda dau berson ifanc yn cael cymorth ariannol i'w helpu gyda'u prosiectau penodol. Rydym yn gobeithio bydd y fwrsariaeth yn llwyddiant eto eleni, ac y bydd o fudd i berson ifanc yng Ngheredigion.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod o’r Cabinet a chyfrifoldeb dros Anghenion Dysgu Ychwanegol, Ymddygiad a Lles, Gwella ysgolion, Seilwaith ac Adnoddau, Hamdden a Dysgu a Sgiliau Ôl-14, “Mae’n grêt i glywed am gyfleoedd fel hyn yng Ngheredigion sy’n galluogi pobl ifanc i ddilyn eu dyheadau ar gyfer y dyfodol. Derbyniodd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion tipyn o ddiddordeb y flwyddyn ddiwethaf ac rwy’n gobeithio y bydd yn derbyn fwy o ddiddordeb y flwyddyn hon. Hoffai Cyngor Sir Ceredigion dymuno’r gorau i bobl ifanc yng Ngheredigion.”

Oes angen cymorth ariannol arnoch i gyrraedd eich nodau? A fyddech chi'n elwa o gymorth ariannol i’ch helpu gyda hyfforddiant neu offer sydd eu hangen ar gyfer eich galwedigaeth ddewisol? Ydych chi'n chwilio am gefnogaeth i gychwyn eich menter eich hun? Ydych chi'n aelod o grŵp cymunedol ac yn chwilio am gymorth ariannol i brynu offer neu adnoddau?

Cysylltwch â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion am ffurflen ymgeisio. Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12yp ar 27 Chwefror 2019. Cysylltwch â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar 01545572352 neu e-bostiwch: youth@ceredigion.gov.uk.

17/01/2019