Gwahoddir datblygwyr a gweithredwyr harbyrau i glywed am y potensial datblygu sylweddol sy'n deillio o'r cyfle i gymryd prydles i weithredu Harbwr Aberaeron.

Yn adnabyddus fel un o’r tlysau yng nghoron arfordir Ceredigion, mae Aberaeron yn gyrchfan phoblogaidd sydd yn adnabyddus am ei resi o dai Sioraidd hardd wedi ei lleoli o amgylch yr harbwr cerrig. Mae cyfleoedd sylweddol ar gael i ddenu buddsoddiad i Aberaeron, gyda'r bwriad o ddatblygu'r harbwr yn gyfleuster modern a chyrchfan hwylio o ansawdd uchel ar arfordir gorllewinol Cymru.

Bydd datblygu a rheoli potensial yr harbwr yn gofyn am ddull cydweithredol cryf. Felly mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal digwyddiad ymgysylltu â'r farchnad i nodi partneriaid masnachol cymwys a phrofiadol, i lunio'r weledigaeth a'r gofynion datblygu i wireddu cynnig hyfyw yn fasnachol sydd o fudd i economi Ceredigion a rhanbarth Canolbarth Cymru. Disgwylir i'r cynnig ysgogi a gwireddu potensial sylweddol i'r economïau lleol a rhanbarthol.

Mae datblygu harbyrau Ceredigion wedi'i nodi fel cyfle allweddol fel rhan o strategaeth economaidd ehangach Cyngor Sir Ceredigion i gymryd mantais ar ein adnoddau ag ein asedau go gyfer hybu twf economaidd.  Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda phartneriaid fel rhan o Tyfu Canolbarth Cymru a’r  ddau Lywodraeth i sicrhau y gellir cefnogi cynigion hyfyw sy'n cynhyrchu twf economaidd ledled y rhanbarth.

Mae’r digwyddiad ymgysylltu â’r farchnad hwn yn cael ei gynnal am 2yh, 27ain o Ionawr 2021 ar “Zoom”.

Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru'ch diddordeb ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â: Ymholiadau.Caffael@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881.

SYLWCH: mae hwn wedi'i fwriadu fel digwyddiad ymgysylltu â gweithredwyr masnachol, ac nid ar gyfer aelodau'r cyhoedd. Bydd digwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghoriadau pellach yn cael eu hystyried wrth i'r cynnig aeddfedu dros amser.

21/12/2020