Trwy gyfrwng y Gronfa Arloesi Cymorth i Ofalwyr, mae grantiau ar gael i sefydliadau yn y trydydd sector yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro sy'n darparu neu yr hoffent ddarparu gwasanaeth a gweithgareddau er mwyn cynorthwyo gofalwyr di-dâl.

Ar gyfer ceisiadau ariannol hyd at 100% o gostau refeniw, hyd at £5,000 ar gyfer prosiectau mewn un ardal sirol a £15,000 ar gyfer prosiectau rhanbarthol. Gall hyd at 20% o gyfanswm y cais ariannol fod am eitemau cyfalaf lle y mae ymgeiswyr yn dangos cyswllt clir gyda'r cais am refeniw.

Mae Themâu'r Gronfa fel a ganlyn:

  • Cynorthwyo bywyd ochr yn ochr â gofalu
  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth
  • Nodi a chydnabod gofalwyr
  • Cynorthwyo cynhwysiant digidol
  • Gwella iechyd corfforol a lles meddyliol gofalwyr.

Rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 31 Mawrth 2022 (gyda 5 mis posibl o gyflawni'r prosiect o fis Tachwedd 2021 ymlaen).

Y dyddiad cau terfynol er mwyn cyflwyno ceisiadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/ 22 fydd dydd Gwener 24 Medi 2021.

Mae pecynnau ymgeisio ar gael gan development@pavs.org.uk ac ewch i wefan CAVO i gael rhagor o wybodaeth: CAVO

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gronfa neu os hoffech gael cymorth i lenwi cais posib, cysylltwch â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol (CVC):

If you have any queries about the fund or would like support with a potential application, then please contact your local CVC. 

07/09/2021