Mae’r sioe broffesiynol gyntaf mewn dwy flynedd yn dod i Theatr Felinfach ym mis Mawrth. Bydd cynhyrchiad cyntaf y Consortiwm Cymraeg, sef cyfieithiad newydd o gomedi wych Willy Russell, Shirley Valentine yn cael ei llwyfannu yn Theatr Felinfach ar nos Wener, 11 Mawrth am 7:30yh.

Comedi sy’n codi’r galon yw hon gan awdur ‘Blood Brothers’ ac ‘Educating Rita’, ac fe gafodd y fersiwn ffilm ohoni, gyda Pauline Collins a Tom Conti yn serennu ei henwebu am Oscar ym 1989. Daeth yn glasur dros nos gyda’i gyferbyniad rhwng awyrgylch difflach maestrefi dinesig a chyfaredd ddisglair gwlad Groeg yn treiddio i ddychymyg cenhedlaeth gyfan o fynychwyr theatr a ffans y sinema.

Shelley Rees sy’n chwarae rhan y wraig tŷ rhwystredig. Mae Shelley a gafodd ei anrhydeddu gydag enwebiad BAFTA Cymru, yn adnabyddus i gynulleidfaoedd y sgrin fach yn ogystal â llwyfannau ledled Cymru. Yn ddiweddar ymddangosodd yn Keeping Faith, Casualty, Gwaith Cartref a hi oedd Stacey Jones yn Pobol Y Cwm. Mae hi hefyd wedi actio yn Svengali, The Green Hollow, a Y Gwyll i’r BBC. Ar hyn o bryd mae Shelley yn diddanu cynulleidfaoedd ar BBC Radio Cymru bob bore Sadwrn gyda’i chyd-gyflwynydd Rhydian Bowen Phillips.

Wrth ddisgrifio’r cyfle i chwarae Shirley, dywedodd Shelley: ‘Wy’ wrth fy modd (a llawn ofn) o gael y cyfle hwn i chwarae’r Shirley Valentine eiconig a methu aros i ddechrau ymarfer gyda Geinor a Manon. Mae Shirley yn gymeriad doniol; mae hi’n ddewr ac yn egnïol ond eto i gyd mae hi’n rhwystredig a heb gyflawni digon yn ei bywyd. Mae hi’n herio’i hun i wneud newidiadau mawr cyn bod ei bywyd yn gwibio heibio’n llwyr ac ‘wy’n edrych ymlaen at ymuno ȃ hi ar y chwyrligwgan! Drama fawr ingol sy’n codi’r galon yw hon, a’n tywys ar daith rymus. Mae’n her ffantastig ac yn fraint fawr fy mod yn gallu actio Shirley yn Gymraeg ledled Cymru.”

 

Manon Eames sydd wedi cyfieithu’r ddrama gymeradwy hon sy’n dilyn anturiaethau gwraig tŷ sydd wedi diflasu’n llwyr ar fywyd wrth iddi adael ei gŵr i chwilio am gyffro a rhamant ar ynys Roegaidd. Mae Manon yn awdur, actor a chyflwynydd profiadol sy’n byw yn Ne Cymru. Mae wedi gweithio ledled Cymru a thu hwnt, gan arbenigo i ddechrau mewn theatr i bobl ifanc a chynulleidfaoedd cymunedol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hi hefyd wedi ymddangos yn, ac wedi sgriptio, nifer o brif gynyrchiadau llwyfan yn ogystal ȃ dramâu teledu a sawl ffilm yn y ddwy iaith. Mae hi wedi ysgrifennu’n rheolaidd ar gyfer Pobol Y Cwm ac yn 2017, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Porth Y Byddar.

Cafodd Shirley Valentine, drama twymgalon am hunan-ganfyddiad, ei chyfieithu i’r Gymraeg gan Manon yn wreiddiol ym 1995 gan ddod ȃ llwyddiant ysgubol i Theatr Gorllewin Morgannwg. Uniaethodd cynulleidfaoedd ledled Cymru ȃ’r hiwmor-chwerthin-llond-eich-bol y ddrama a’r drafodaeth gignoeth am rywioldeb.  Esbonia Manon: “Bu cyfieithu Shirley Valentine yn 2021 yn bleser pur. Mae dynoliaeth, ffraethineb a phathos y ddrama'r un mor berthnasol heddiw ag yr oedd yn ôl yn yr wythdegau pan ysgrifennodd Willy Russell y ddrama yn gyntaf, ac mae cymeriad a stori Shirley’n parhau’n fywiog a pherthnasol ym mhob cyfnod: arwydd o ysgrifennu gwirioneddol wych.”

Cydweithrediad newydd yw Y Consortiwm Cymraeg wedi ei greu gan y cwmni theatr gwobredig, Theatr na nÓg, a thair theatr arall gyda’r nod o gyflwyno theatr hygyrch o ansawdd uchel yn y Gymraeg. Mae cynhyrchu rhaglen gyfranogi ar gyfer cymunedau er mwyn gwella eu sgiliau iaith hefyd yn nod, gan feithrin perthynas rhyngddynt ȃ’r celfyddydau a diwylliant ar stepen eu drws. Daeth Theatr Soar ym Merthyr Tydfil, Y Neuadd Les yn Ystradgynlais a Neuadd y Dref Maesteg at ei gilydd ynghyd ȃ Theatr na nÓg i ailgynnau bywiogrwydd a gwerth y lleoliadau hyn yn eu cymunedau.

Roedd olwynion y Consortiwm eisoes yn troi cyn bod sôn am bandemig COVID, ond wrth i ganolfannau diwylliannol wynebu’r clo mawr, teimlwyd bod yr angen am y canolfannau creadigol hyn yn fwy dirfawr nag erioed – er mwyn helpu diogelu dyfodol y Gymraeg yn y cymoedd, a chefnogi cymuned fywiog y cymoedd y tu hwnt i Bandemig Covid.

Dyma gynhyrchiad cyntaf y Consortiwm. Esboniodd Geinor Styles, cyfarwyddwr Shirley Valentine a chyfarwyddwr artistig Theatr na nÓg: “Un o fy swyddi cynharaf fel rheolwr llwyfan oedd ar daith Shirley Valentine ym 1994 gyda Theatr Gorllewin Morgannwg. Roedd ymateb y cynulleidfaoedd, siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, yn anhygoel ac mae wedi aros gyda fi ers hynny. Ein nod allweddol ni yn Theatr na nÓg yw rhoi noson allan dda i gynulleidfaoedd o bob cefndir mewn lleoliad ar stepen eu drws yn y Gymraeg ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu cynulleidfaoedd i fwynhau’r ddrama ragorol hon.”

Mae Rhian Dafydd, Rheolwr Busnes a Marchnata Theatr Felinfach wrth ei bodd mai cynhyrchiad Cymraeg fydd ei cynhyrchiad proffesiynol cyntaf mewn 2 flynedd. Dywedodd: “Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r cyfieithiad hwn o gynhyrchiad proffil uchel a fydd yn apelio at gynulleidfa eang. Rwy’n gobeithio mai dyna’r union beth sydd ei angen arnom i gael pethau i symud eto.”

Am docynnau cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01570 470697 rhwng 9:30yb a 4:30yp o ddydd Llun hyd at ddydd Gwener. Gallwch hefyd adael neges gyda’ch enw a’ch rhif ffôn ar y peiriant ateb, neu anfonwch e-bost at theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk

Sylwer:

  • canllaw oed 14+
  • ni dderbynnir archebion oddi ar unrhyw un o’n llwyfannau cyfryngau cymdeithasol
  • bydd angen talu’n llawn wrth archebu
  • nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael
  • gweithredir canllawiau Covid-19 a bydd angen cadw pellter cymdeithasol drwy’r amser.

I gael mynediad i’r Theatr bydd angen:

  • prawf adnabod (i rai sydd dros 18 oed), er enghraifft pasbort, trwydded yrru, neu fil trydan neu ffôn
  • tystiolaeth o brawf llif unffordd negatif (LFT – Lateral Flow Test) wedi ei gymryd dim mwy na 24 awr cyn y perfformiad ac wedi ei gofrestru gyda’r GIG (11+) https://www.gov.uk/cofnodi-canlyniad-covid19 gyda neges destun, e-bost cadarnhau neu ddiweddariad i’ch ap GIG i ddangos fel tystiolaeth.
  • enw a rhif cyswllt pawb yn eich grŵp at ddefnydd Profi ac Olrhain. Os bydd rhywun yn eich grŵp yn methu dod i’r perfformiad a bod y tocyn yn cael ei gynnig i rywun arall, bydd angen i’r Theatr gael y manylion cyswllt newydd.

21/02/2022