Ar nos Lun, 2 Mawrth bydd Cwmni’r Frân Wen, mewn partneriaeth â Galeri, yn dod â’r addasiad theatr o’r gyfrol ôl-apocalyptaidd gan Manon Steffan Ros i Theatr Felinfach yn rhan o’r daith o amgylch Cymru.

Does ddim amheuaeth fod Llyfr Glas Nebo wedi creu argraff syfrdanol ers ei chyhoeddi.

Ychydig dros wythnos ar ôl i'r nofel ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd 2018, roedd ailargraffiad yn cael ei baratoi. Aeth ymlaen i gipio gwobr driphlyg yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2019 ac eleni mae hi'n nofel testun TGAU Cymraeg.

Mae'r nofel yn dilyn stori ryfeddol Siôn, ei fam Rowenna, a’i chwaer fach, Dwynwen wrth iddynt geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.

Tara Bethan sy'n chwarae rhan y fam, Rowenna, gydag Eben James yn chwarae'r mab, Siôn. Meddai Tara: “Mae cael bod yn rhan o addasu Llyfr Glas Nebo i'r llwyfan yn anrhydedd mawr i mi - does ddim amheuaeth mai hon yw un o'r nofelau Cymraeg mwyaf cyffrous yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”

Wrth i’r llwch lonyddu ar ôl apocalyps niwclear, mae Rowenna a’i phlant Siôn a Dwynwen yn wynebu byd lle mae bywyd yn diflannu’n gyflym. Cofnodir eu stori mewn llyfr bach glas wrth i’r teulu geisio goroesi’r digwyddiad dychrynllyd.

Mae Llyfr Glas Nebo yn stori am fywyd, marwolaeth a gobaith. Mi fyddwch chi’n chwerthin. Mi fyddwch chi’n crio. Ond yn fwy na dim, mi fyddwch chi’n cwestiynu sut rydyn ni’n byw, caru a gofalu am ein byd o’n cwmpas ni heddiw. Mae Cwmni'r Frân Wen a Galeri yn hynod o falch i ddod â nofel ddirdynnol Manon Steffan Ros i’r llwyfan.

Mae tocynnau yn mynd yn gyflym felly cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu archebwch ar-lein ar theatrfelinfach.cymru. Mae tocynnau’n £12 i oedolion, £10 i bensiynwyr ac aelodau ac £8 i fyfyrwyr, bobl ifanc a phlant. Y canllaw oedran yw 12+.

07/02/2020