Ar ôl bron 11 mlynedd o wasanaeth yng Ngheredigion, mae Sue Darnbrook, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion, yn ymddeol heddiw.

Mae Sue yn hanu o gymuned Gymraeg Penycae ym mhen uchaf Cwm Tawe. Aeth i Ysgol Gynradd Penycae ac Ysgol Uwchradd Maesydderwen yn Ystradgynlais. Hyfforddodd a chymhwysodd fel athrawes yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, cyn dechrau gweithio ym maes gofal cymdeithasol ym 1980.

Gan ddechrau ei gyrfa mewn gwaith cymdeithasol fel cynorthwyydd gweithiwr cymdeithasol i Gyngor Sir Powys, enillodd ei chymhwyster mewn gwaith cymdeithasol o goleg polytechnig Birmingham a pharhaodd i weithio yng nghanolbarth Lloegr am 25 mlynedd. Gweithiodd yn bennaf o fewn lleoliadau awdurdod lleol, ond treuliodd 5 mlynedd yn gweithio yn y sector gwirfoddol i Barnardo’s. Roedd Sue yn athrawes ymarfer gwaith cymdeithasol am nifer o flynyddoedd yn Swydd Gaerwrangon ac yng nghanolbarth Lloegr. Mae Sue wedi gweithio mewn awdurdodau lleol yn y lleoliadau mwyaf trefol (Cyngor Dinas Birmingham) a mwyaf gwledig (Cyngor Sir Powys). Enillodd Sue ddiploma ôl-raddedig mewn Rheoli Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ym Mhrifysgol Caerwrangon a dechreuodd ei gyrfa ym maes rheoli gyda Chyngor Swydd Caerwrangon ym 1998. Mae gan Sue brofiad sylweddol o weithio mewn partneriaeth ag Iechyd ac o reoli o fewn gwasanaethau integredig. Mae ganddi arbenigedd penodol o weithio ym meysydd anabledd a diogelu. Mae rhoi dinasyddion wrth wraidd gwaith adran y gwasanaethau cymdeithasol yn sylfaen i werthoedd Sue.

Daeth Sue yn ôl i fyw a gweithio yng Nghymru yn 2005, gan ddechrau gweithio fel Rheolwr Sir gyda Chyngor Sir Powys. Ers hynny fe’i penodwyd gan Gyngor Sir Ceredigion i swydd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion; yn 2016 fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Strategol – Gofal, Diogelu a Ffordd o Fyw, ac fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Corfforaethol ym mis Ebrill 2018.

Diolchodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, i Sue am ei gwasanaeth ffyddlon ac ymroddedig i’r Cyngor, “Rwy’n dymuno’r gorau i Sue ar ei hymddeoliad. Mae ei hymddeoliad yn golygu colled enfawr i’r Cyngor a’r sir, a byddwn yn gweld eisiau ei chwmni fel cydweithiwr a chyfaill. Yn ystod y degawd y mae Sue wedi bod yn gweithio i’r Cyngor, mae hi wedi bod yn allweddol o ran datblygu a bod yn rhan o brosiectau cydweithredol a gweithio mewn partneriaeth ag eraill er budd Ceredigion. Diolchwn iddi yn fawr am hyn.

Rydym yn dymuno’r gorau i Sue ar gyfer ymddeoliad hapus. Rydym yn gobeithio y bydd hi’n mwynhau ei diddordebau ac amser gyda’i gŵr John, y teulu, ac wrth gwrs, bod yn fam-gu i Imogen ac Izzidora.”

12/05/2020