Mae pwyllgor newydd i atgyfnerthu gweithio rhanbarthol ar draws canolbarth Cymru wedi cynnal ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru yn un o bedwar a sefydlwyd led led Cymru gan Lywodraeth Cymru. Y nod yw atgyfnerthu democratiaeth ac atebolrwydd lleol trwy integreiddio gwneud penderfyniad mewn tri maes allweddol.

Mae’r pwyllgor yn cynnwys Arweinwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Powys, Is-Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (ar gyfer materion cynllunio) ac uwch gynrychiolwyr o’u sefydliadau.

Gwnaed nifer o apwyntiadau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 4 Gorffennaf 2022. Mae’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, wedi cael ei ethol yn Gadeirydd am y 12 mis nesaf. Etholwyd y Cynghorydd James Gibson Watt, Arweinydd Cyngor Sir Powys yn Is-gadeirydd.

Bydd Dr. Caroline Turner Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys yn parhau i wneud dyletswyddau Prif Weithredwr y pwyllgor.

Mae’r pwyllgor wedi cael y dasg o ddatblygu trafnidiaeth ranbarthol, cynlluniau datblygu strategol a gwella lles economaidd.

Mae’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn cael ei gyflwyno gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

05/07/2022