Ar ddydd Mercher 12 Mehefin, cafodd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion (GIS) gydnabyddiaeth gan gynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion am greadigrwydd o furlun mawr o graffiti ar hyd afon Teifi yn Aberteifi, a grëwyd gan GIS, ynghyd â 17 o bobl ifanc rhwng 11-25 a'r arlunydd graffiti, Lloyd y Graffiti.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref Aberteifi a Jewsons, cafodd y bobl ifanc o ysgol Aberteifi, rhaglen Inspire Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ac ‘Area 43’ gyfle i weithio gyda'r arlunydd graffiti proffesiynol Lloyd y Graffiti.

Mae Gavin Witte yn Weithiwr Ieuenctid i Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ac mae wedi helpu i gyflawni'r prosiect. Meddai, "Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i bobl ifanc Aberteifi. Maent wedi dod â'u syniadau a'u brwdfrydedd eu hunain ynghyd i gynhyrchu darn o gelfyddyd y gallant hwy a'r gymuned ymfalchïo ynddo am flynyddoedd i ddod."

Defnyddiwyd cyfanswm o 80 litr o emwlsiwn, 112 o ganiau o baent chwistrellu i greu'r murlun trawiadol sy’n cynrychioli rhai bywyd gwyllt lleol yn ogystal â choffáu'r deu-ganmlwyddiant Albion Voyage a ymadawodd â Dyffryn Teifi i Ganada yn 1819.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw'r aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Dysgu. Meddai, "Ar ran y Cyngor, hoffwn longyfarch Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, y bobl ifanc a phawb a fu'n ymwneud â chreu'r campwaith lliwgar a siriol hwn – nid yn unig mae'n dathlu'r bywyd gwyllt lleol ond hefyd yn nodi darn pwysig o threftadaeth Aberteifi. Mae wedi trawsnewid yn llwyr ardal weladwy iawn o lan afon Teifi ac mae eisoes yn denu sylwadau brwdfrydig a gwerthfawrogol gan drigolion lleol a'r ymwelwyr a ddaw i ardal Aberteifi o bell ac agos."

Mae Clwb Ieuenctid Aberteifi yn rhedeg pob dydd Mercher, rhwng 3:30 a 6yh. I gael rhagor o wybodaeth am waith Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ewch i'w tudalen Facebook, Twitter neu Instagram @GICeredigionYS neu ewch i'w gwefan www.giceredigionys.co.uk.

17/06/2019