Ar Nos Fercher, 13 Tachwedd bydd Cwmni Theatr Bara Caws yn cyflwyno Lleu Llaw Gyffes gan y llenor a’r awdur unigryw Aled Jones Williams. Ysbrydolwyd y ddrama gan awydd Aled i archwilio ein mythau ni fel cenedl: Y Mabinogi.

Beth sy’n digwydd pan fo myth yn torri lawr a chwalu? A ddaw myth newydd i gymryd ei lle? Oes rhywbeth ynddynt o hyd sy’n werthfawr a all gyfoethogi ein bywydau?  Drama ddifyr, ddeifiol a chignoeth am golli ffydd ac am bosibilrwydd y tynerwch dynol a all oroesi.

Betsan Llwyd sy’n cyfarwyddo ac mae’r cast yn wynebau cyfarwydd ym myd y theatr a’r cyfryngau sef; Carwyn Jones (35 Awr, Gair o Gariad), Siôn Pritchard (Craith/Hidden, Hollti) a Dyfan Roberts (Un Nos Ola Leuad, Y Tad).

Mae’r tocynnau yn £13 i oedolion, £12 i bensiynwyr ac aelodau a £10 i fyfyrwyr a disgyblion dros 14 ac ar gael o’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ar-lein ar www.theatrfelinfach.cymru.

Canllaw Oedran 14+

24/10/2019