Mae cronfa i ailddefnyddio adeiladau masnachol sy’n cael eu tanddefnyddio yn Llandysul, Tregaron a Llanbedr Pont Steffan yn helpu busnesau i ehangu a chefnogi’r economi leol. Mae Cronfa Buddsoddi mewn Eiddo Canol Tref Canolbarth Cymru yn parhau i fod ar gael ac yn croesawu ceisiadau.

Ar ôl brwydr pedair blynedd o hyd, gall Mark a Jayne Ludgate sy’n rhedeg The Arcade yn Llandysul ehangu eu busnes diolch i grant gan y Gronfa. Roeddent yn awyddus i ehangu eu busnes teuluol drwy werthu cynnyrch ar-lein, ond nid oedd ganddynt ddigon o le i storio, prosesu a phecynnu stoc.

Roedd angen warws er mwyn datrys y broblem, ond byddai cost adeiladu’r warws wedi bod llawer yn uwch na gwerth y warws unwaith y byddai wedi’i adeiladu. Roedd hyn yn golygu nad oedd arian drwy fenthyca yn unig yn realistig. Roedd y grant yn hanfodol er mwyn gwireddu gallu’r teulu Ludgate i ehangu eu busnes.

Bydd y grant yn caniatáu iddynt ddefnyddio eu lleoliad ar y stryd fawr fel siop er mwyn cyfarch eu cwsmeriaid. Yn y gorffennol, doedd ganddynt ddim dewis ond ei ddefnyddio fel man storio. Byddant yn defnyddio’r arian i adeiladu warws y tu allan i Landysul er mwyn cadw stoc, a bydd hyn yn caniatáu iddynt ddefnyddio eu heiddo ar y stryd fawr yn y modd mwyaf effeithiol.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sydd â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio. Dywedodd: “Mae hon yn enghraifft dda o’r rheswm y sefydlwyd y Gronfa gan Bartneriaeth Ranbarthol Canolbarth Cymru. Mewn trefi fel Llandysul, mae cost datblygu eiddo gan amlaf yn uwch na gwerth yr eiddo yn y pen draw. Golyga hyn bod buddsoddi drwy fenthyca yn unig yn hynod o anodd. Nod grantiau’r Gronfa yw cau’r bwlch hwnnw yn y farchnad a chefnogi cynlluniau busnesau lleol i ehangu.

Os yw cost adnewyddu adeilad sy’n cael ei danddefnyddio yn atal eich cynlluniau i ehangu eich busnes, byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn siarad â’ch swyddog lleol i weld a all y grant eich helpu. Mae hyn yn bwysig i fusnesau lleol a’r economi ehangach.”

Ariennir y Gronfa gan raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru, ac mae ar gael yn Llandysul, Tregaron, Llanbedr Pont Steffan, Aberhonddu, Llandrindod a’r Drenewydd. Croesewir ceisiadau gan berchnogion neu lesddeiliaid eiddo sy’n cael eu tanddefnyddio. Gall ymgeiswyr gysylltu â’u swyddog rhanbarthol lleol; gareth.rowlands@ceredigion.gov.uk yng Ngheredigion neu alan.davies2@powys.gov.uk ym Mhowys er mwyn trafod eu cymhwyster.

27/02/2020