Yfory, 08 Medi, bydd y Tour of Britain yn cychwyn ei bedwerydd cymal o Aberaeron.

Bydd y llwybr yn mynd â beicwyr o Aberaeron i fyny i Aberystwyth ac yna i’r Borth cyn symud ymlaen i Abermaw.

Mae Cyngor Sir Ceredigion, gan gydweithio â threfnwyr y Tour of Britain, yn cynnal diogelwch y cyhoedd, a bydd man cychwyn y cymal ar gyrion Aberaeron ar gau i’r cyhoedd; ni chaniateir gwylwyr yn y lleoliad cychwynnol hwn.

Fodd bynnag, bydd tref Aberaeron ar agor ac yn barod i groesawu gwylwyr wrth i’r beicwyr gychwyn ar eu taith drwy Geredigion. Bydd y ras yn cychwyn am 10:30am.

Gall gwylwyr barhau i gefnogi'r digwyddiad ar hyd y llwybr gan gofio cadw pellter cymdeithasol a dilyn mesurau diogelwch ar y ffyrdd. Gall cefnogwyr hefyd fwynhau gwylio'r digwyddiad o gysur eu cartref eu hunain gan y bydd yn cael ei ddarlledu ar ITV4.

07/09/2021