Yn ystod cyfarfod o’r Cabinet heddiw, cymeradwyodd yr Aelodau y Strategaeth Gweithio Hybrid a’r Polisi Hybrid Dros Dro ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion, i’w dreialu am 12 mis.

Mae’r strategaeth yn nodi’r weledigaeth a’r dulliau gweithredu cysylltiedig a ddefnyddir i sicrhau bod gan Gyngor Sir Ceredigion weithlu sydd â’r sgiliau a’r gallu i weithio mewn ffordd sy’n addas ar gyfer dyfodol ein sefydliad, a hynny mewn mannau gwaith sy’n diwallu eu hanghenion. Bydd hyn yn helpu i danategu’r gwaith o gyflawni Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor drwy sicrhau bod gweithlu sy’n perfformio’n dda yn gweithredu mewn ffordd sy’n arloesol, yn ddigidol aeddfed ac yn gynaliadwy.

Mae'r Polisi Gweithio Hybrid Dros Dro wedi'i ddatblygu i ddarparu gwybodaeth fanwl am yr hyn y mae gweithio hybrid yn ei olygu i'r Cyngor. Bydd yn cefnogi gweithwyr a'u rheolwyr i roi gweithio hybrid ar waith trwy ddarparu cyngor a gwybodaeth ymarferol, gan alluogi gweithwyr i weithio o'r swyddfa neu gartref yn effeithiol, yn gynhyrchiol ac yn ddiogel.

Cyfleoedd ehangach

Bydd addasu'r ffordd y mae'n gweithio yn galluogi'r Cyngor i ddarparu gwasanaethau modern a fydd yn gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Ceredigion.

Mae adborth wedi dangos bod staff yn fwy cynhyrchiol ac mae ffyrdd digidol o weithio wedi gwella mynediad at wasanaethau i lawer o gwsmeriaid. Gan fod niferoedd uchel yn gweithio mewn ffordd hybrid, mae yna gyfleoedd sylweddol i drawsnewid y gofod a arferai gael ei ddefnyddio gan ddesgiau ac ystafelloedd cyfarfod i ddarparu ystod o ddefnyddiau newydd neu ddarparu gwasanaethau mewn ffordd fwy integredig, a hynny’n fewnol a gyda phartneriaid ac asiantaethau allanol.

Gwasanaethau Cwsmeriaid

Nid yw newid mawr yn digwydd dros nos felly mae'n bwysig i'r Cyngor gynnal gwasanaethau da wrth geisio gwella'r modd y darperir gwasanaethau yn y tymor canolig i'r tymor hwy. Bydd y Cyngor yn gwneud hyn drwy barhau i ddarparu gwasanaethau yn rhithwir ac wyneb yn wyneb. Bydd llawer o wasanaethau’n parhau i ddarparu gwasanaethau digidol lle maent yn gweithio'n dda.

Gallwch wneud ymholiadau cyffredinol a chasglu bagiau ailgylchu/bwyd a gwastraff domestig eraill yn ein Llyfrgelloedd a bydd gwasanaethau wyneb yn wyneb yn cael eu hymestyn i gynnwys talu â cherdyn yn y dyfodol agos.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Democrataidd, Polisi, Perfformiad a Phobl a Threfniadaeth: “Mae’r Strategaeth Gweithio Hybrid a’r Polisi Gweithio Hybrid Dros Dro yn ddull cyffrous i alluogi staff i barhau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel mewn ffyrdd newydd ac arloesol. Nododd y gwaith ymgysylltu â staff fod llawer o fanteision o weithio hybrid, gan gynnwys cyfarfodydd rhithwir, mwy o gynhyrchiant, gwell cydweithredu, a mwy o hyblygrwydd wrth gydbwyso bywyd gwaith a chartref. Rydym felly’n croesawu’r model gweithio hybrid interim a fydd yn cynnal y lefel uchel o wasanaeth sy’n ofynnol, a bydd anghenion y gwasanaeth bob amser yn flaenoriaeth wrth ystyried unrhyw bosibiliadau gweithio hybrid yn y dyfodol.”

Ymgysylltu

Mae'r Strategaeth Gweithio Hybrid a'r Polisi Gweithio Hybrid Dros Dro wedi cael eu dylanwadu'n fawr a'u llywio gan ymgysylltiad parhaus â staff a rheolwyr. Mae hyn wedi amlygu cefnogaeth sylweddol ar gyfer datblygu'r ffordd y mae staff yn gweithio a sut y darperir gwasanaethau. Bydd y polisïau hyn yn helpu i roi eglurder wrth symud ymlaen ac yn galluogi gwasanaethau a staff i gynllunio gyda mwy o sicrwydd o hyn ymlaen.

Bydd y Cyngor yn dechrau ymgysylltu ar ailddefnyddio'r adeiladau, y math o wasanaethau y gellir eu darparu a pha ddefnyddiau eraill y gellir eu gwneud o'r gofod a grëwyd cyn hir.

I ddarllen rhagor am y polisi a’r strategaeth, ewch i wefan y Cyngor: Cyfarfod y Cabinet, Cyngor Sir Ceredigion 

26/07/2022