Mae cynnydd sylweddol o achosion o COVID-19 yn parhau i gael ei gweld ledled Ceredigion.

Gwelwyd cynnydd penodol yn ardal Aberteifi ac Aberporth, sydd bellach â ffigurau o 1081.3 i bob 100,000 o’r boblogaeth, sef y lefel uchaf yr ydym wedi’i weld trwy gydol y pandemig yng Ngheredigion. Mae’r lefelau yn rhannau eraill o’r sir yn parhau’n uchel, gydag ardaloedd tebyg i Lanbedr Pont Steffan a Llanfihangel Ystrad â 582.3 i bob 100,000 o’r boblogaeth a Cheinewydd a Phenbryn â 578.1 i bob 100,000.

Mae nifer yr achosion ymhlith pobl o dan 25 oed yn parhau i gynyddu. Yn ystod y saith diwrnod diwethaf, cynyddodd hyn i 898.6 i bob 100,000 o’r boblogaeth.

Mae’r lefelau hyn wedi bod yn gyson uchel am nifer o wythnosau ac, yn anffodus, yn arwain at nifer o dderbyniadau i'r ysbyty.

Rydym yn annog pawb i gymryd gofal wrth fynd i'r gwaith a chymdeithasu. Nid yw COVID-19 wedi diflannu ac mae angen i bob un ohonom barhau i wneud ein rhan i gadw ein gilydd yn ddiogel.

Mynnwch eich brechlyn

Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechlyn, dyma fydd yn rhoi’r amddiffyniad gorau i chi yn erbyn y feirws wrth i ni wynebu’r gaeaf. Mae’r brechlyn rhag COVID-19 hefyd yn darparu amddiffyniad ac hefyd yn rhoi gwell amddiffyniad i'ch anwyliaid a’n cymunedau. Mae cael eich brechu yn achub bywydau.

Mae pigiadau atgyfnerthu bellach yn cael eu cyflwyno, gyda pobl ifanc 12-15 oed yn cael cynnig y brechlyn ym mis Hydref. I gael rhagor o wybodaeth am sut i gael eich brechlyn, ewch i wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Symptomau

Os byddwch yn datblygu unrhyw symptomau, rhaid i chi hunanynysu yn syth a threfnu prawf trwy fynd i wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu trwy ffonio 119.

Mae’r prif symptomau yn cynnwys tymheredd uchel, peswch newydd parhaus, a cholled neu newid i flas neu arogl. Dylech hefyd fod yn ymwybodol o symptomau tebyg i ddolur gwddf, trwyn yn rhedeg, cur pen, blinder, diffyg anadl, cyfog, dolur rhydd a theimlo’n anhwylus yn gyffredinol.

Hyd yn oed os byddwch wedi cael dau ddôs o’r brechlyn, parchwch eraill trwy olchi eich dwylo yn rheolaidd, gwisgo masg lle bo angen a chadw pellter cymdeithasol oddi wrth bobl eraill.

Trwy ddilyn yr arferion da hyn gallwn wneud ein rhan i gadw Ceredigion yn ddiogel.

Pwysau ar wasanaethau

Yn unol â’r sefyllfa ledled y wlad, mae nifer o’n gwasanaethau yn wynebu pwysau sylweddol oherwydd prinder staff. Mae hyn yn amrywio o ofalwyr i gynorthwywyr addysgu, glanhawyr, gweithwyr ffyrdd, staff gweinyddol a llawer mwy. Mae’r rhain yn swyddi allweddol sy’n ein helpu i ddarparu gwasanaethau rheng-flaen.

Mae rhestr lawn o’r swyddi gwag sydd ar gael ar hyn o bryd ar dudalen gyrfaoedd y Cyngor.

30/09/2021