Bydd pob ysgol yng Ngheredigion yn cau ar ddiwedd y diwrnod ysgol ar ddydd Gwener, 20 Mawrth 2020.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd pob ysgol yn cau oherwydd yr argyfwng presennol yn ymwneud â’r Coronafeirws.

Mae’r Cyngor yn gwneud trefniadau i rieni sy’n gweithio ar gyfer gwasanaethau brys, cartrefi gofal neu ofal cartref er mwyn iddynt gofrestru eu hanghenion gofal plant. Bydd gofal plant am ddim ar gael i’r grwpiau hyn o rieni mewn sawl lleoliad ledled y Sir. Bydd rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gofrestru ar gyfer eich anghenion gofal plant yn dilyn.

Yn unol â datganiad y Gweinidog Addysg, ni fydd arholiadau TGAU na Lefel A yn cael eu cynnal yn haf 2020. Rydyn ni’n aros am gyfarwyddiadau pellach gan Gymwysterau Cymru ar yr union fodd y bydd graddau’n cael eu dyfarnu i ddisgyblion eleni, a bydd ysgolion yn cysylltu â rhieni gyda mwy o wybodaeth maes o law.

Mae’r holl wybodaeth ddiweddaraf yng Ngheredigion ar gael ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/coronavirus ac mae’n rhannu gwybodaeth ar ei dudalennau cyfryngau cymdeithasol.

19/03/2020