Oherwydd y sefyllfa gynyddol mewn perthynas â COVID-19 a chanllawiau pellach a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, mae'r Cyngor yn atal i ymwelwyr i gartrefi gofal preswyl y Cyngor hyd nes y rhoddir rhybudd pellach.
Mae'r Cyngor yn annog pob cartref gofal preifat i ddilyn yr enghraifft hon.
Y rhain yw:
- Cartref Gofal Preswyl Bryntirion, Tregaron;
- Cartref Gofal Preswyl Tregerddan, Rhydypennau;
- Cartref Gofal Preswyl Min Y mor, Aberaeron’
- Cartref Gofal Preswyl Hafan Deg, Llanbedr Pont Steffan’
- Cartref Gofal Preswyl yr Hafod, Aberteifi.
Ni chymerwyd y penderfyniad hwn yn ysgafn. Fodd bynnag, mae iechyd, diogelwch a lles ein preswylwyr, staff a'r cyhoedd yn hollbwysig ar yr adeg anodd hon. Gall perthnasau gysylltu â'r cartref dros y ffôn ac mae trefniadau yn eu lle ar gyfer fideogynadledda/Skype o wythnos nesaf ymlaen er mwyn galluogi teuluoedd i siarad â'r preswylwyr. Bydd teuluoedd yn cael gwybod am y trefniadau hyn yn y dyddiau nesaf. Os ydych yn dymuno rhoi anrhegion i'r cartref ar gyfer 'Sul y mamau', ffoniwch y Rheolwr Cartref Gofal i drefnu hyn er mwyn sicrhau ei bod yn cydymffurfio â'r protocolau darparu rheoledig sydd eisoes yn eu lle.
21/03/2020