Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae Porth Cymorth Cynnar wedi sefydlu llwyfan rithwir er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cadw mewn cysylltiad gyda thrigolion bregus ledled Ceredigion.

Oherwydd y cyfyngiadau a gyflwynwyd i ddiogelu ein cymunedau yn erbyn COVID-19, ni fydd nifer o drigolion yn gallu cael mynediad at y cymorth neu’r ddarpariaeth y maent yn ei dderbyn fel arfer, megis grwpiau rhieni neu ddosbarthiadau atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff.

Yn hytrach, rydym yn sicrhau y cedwir mewn cysylltiad â’r holl drigolion sy’n hysbys i’n gwasanaethau drwy alwadau lles rheolaidd, pe baent yn dymuno derbyn hynny. Bydd ein staff yn cyfathrebu gydag oddeutu 2000 o drigolion, gan amrywio o bobl ifanc i deuluoedd i ofalwyr a all fod angen cyswllt rheolaidd arnynt neu a fyddai’n elwa o hynny tra nad yw eu gwasanaeth yn gweithredu fel yr arfer.

Gall staff ddarparu cymorth, cyngor neu arweiniad ac maent yn gweithio’n agos gyda’r trydydd sector er mwyn casglu gwybodaeth ynghylch grwpiau cymorth lleol, gwasanaethau dosbarthu bwyd a chasglu meddyginiaeth er mwyn cyfeirio trigolion atynt.

Mae Porth Cymorth Cynnar yn diweddaru rhestrau adnoddau yn rheolaidd, ac mae’r rhain ar gael yma ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19 

Yn ogystal, mae Porth Cymorth Cynnar yn gweithio gydag ysgolion Cynradd ac Uwchradd ledled y sir i ddarparu cymorth er mwyn cadw mewn cysylltiad â theuluoedd.

27/03/2020