Gyfeillion, Gallaf sicrhau pobl Ceredigion bod Grŵp Rheoli Aur COVID-19 Cyngor Sir Ceredigion wedi ei sefydlu ac yn gwneud gwaith hanfodol i baratoi’r sir i fynd i’r afael â’r Coronafeirws.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gofal i’w weithwyr, i bawb sy’n dod i gysylltiad â ni ac i chi bobl Ceredigion yn gyffredinol. Mae’r staff yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa wrth iddi ddatblygu, yna byddant yn cysylltu â’r defnyddwyr gwasanaeth perthnasol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r newidiadau.

Mae’r Cyngor yn gweithio’n agos gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru a bydd yn dilyn unrhyw ganllawiau a ddaw oddi wrthynt. Os bydd cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru yn newid, bydd y Cyngor yn dilyn y cyngor ac yn cymryd y camau gweithredu priodol.

Does dim dwywaith y bydd y Coronafeirws yn effeithio arnom ni gyd mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Fe ddylech gadw golwg ar gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru bob dydd ac os oes gennych chi unrhyw symptomau, fe ddylech hunan-ynysu am 14 diwrnod.

Mae’n braf gweld bod ysbryd cymunedol Ceredigion yn dod i’r amlwg ar adeg fel hyn gan fod sawl grwp lleol yn cael ei sefydlu i ofalu bod pobl sydd yn gorfod hunan ynysu yn cael yr help mae nhw angen i gael bwyd a meddyginiaeth angenrheidiol. Diolch o galon iddynt i gyd.

Cadwch yn ddiogel a chofiwch y gallwch chi gysylltu a ni trwy Clic trwy’r gwefan www.ceredigion.gov.uk, ar ebost clic@ceredigion.gov.uk neu ar y ffôn 01545 570881.

Mae’r holl wybodaeth o Geredigion i’w weld ar dudalen Coronafeirws.

Mae’r holl wybodaeth a chyngor diweddaraf ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Y Cyngorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion

18/03/2020