Yn sgil y sefyllfa sy’n newid yn gyflym mewn perthynas â’r Coronafeirws, bydd y canlynol yn cael eu rhoi ar waith ynghylch y Gwasanaethau Gwastraff.

1. O ddiwedd y dydd, ddydd Sul 22 Mawrth 2020, bydd y Safleoedd Gwastraff Cartref canlynol a weithredir ar ran Cyngor Sir Ceredigion yn cau hyd nes y ceir hysbysiad pellach:

  • Aberystwyth
    Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. SY23 3JQ
  • Aberteifi
    Cilmaenllwyd, Penparc, Aberteifi. SA43 1RB
  • Llanbedr Pont Steffan
    Yr Ystâd Ddiwydiannol, Ffordd Tregaron, Llanbedr Pont Steffan. SA48 8LT
  • Llanarth
    Rhydeinon, Llanarth. SA47 0QP

2. O ddiwedd y dydd, ddydd Gwener 20 Mawrth 2020, bydd pob gwasanaeth casglu Gwastraff Cartref Swmpus a Gwastraff Gardd yn cael eu gohirio hyd nes y ceir hysbysiad pellach.

3. O ddiwedd y dydd, ddydd Gwener 20 Mawrth 2020, hyd nes y ceir hysbysiad pellach, ni fyddwn yn derbyn ceisiadau newydd ar gyfer cadis bwyd na bocsys gwydr.

4. Byddwn yn parhau i ymdrechu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff craidd fel yr hysbyswyd.

  • Rhoddir blaenoriaeth i gasgliadau gwastraff gweddilliol (bagiau duon), gwastraff bwyd a Chynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP).
  • Os nad yw hi’n bosib darparu casgliadau fel yr hysbyswyd, cadwch eich gwastraff yn eich cartref ac arhoswch am wybodaeth bellach.

5. Helpwch ni i ddiogelu ein staff casglu gwastraff drwy wneud y canlynol:

  • Rhoi eich holl wastraff personol (megis hancesi wedi’u defnyddio) a chadachau glanhau yn eich bag du a chlymu’r bag.
  • Clymu bag sbwriel ychwanegol o amgylch eich holl wastraff.

6. Bwriedir darparu cyflenwad o fagiau ailgylchu clir a leinwyr bin bwyd i leoliadau yn y gymuned gan gynnwys:

Banciau Gwydr Cymunedol
Y tu allan i swyddfeydd canlynol y Cyngor:

  • Neuadd Cyngor Ceredigion
    Penmorfa
    Aberaeron
    SA46 0PA
  • Aberystwyth
  • Swyddfeydd y Cyngor
    Canolfan Rheidol
    Rhodfa Padarn
    Llanbadarn Fawr
    Aberystwyth
    SY23 3UE
  • Llanbedr Pont Steffan
    Swyddfeydd y Cyngor / Llyfrgell
    Swyddfeydd y Cyngor
    Stryd y Farchnad
    Llanbedr Pont Steffan
    SA48 7DS
  • Aberaeron
    Swyddfeydd y Cyngor / Llyfrgell
    Neuadd y Sir
    Heol y Farchnad
    Aberaeron
    SA46 OAT
  • Aberteifi
    Swyddfeydd y Cyngor / Llyfrgell
    Swyddfeydd y Cyngor
    Stryd Morgan
    Aberteifi
    SA43 1DG

er mwyn i’r cyhoedd gael rhagor o gyflenwadau. Bydd y rhain yn cael eu rhoi mewn biniau olwynion ar y safleoedd hyn, a byddant wedi’u dynodi’n glir.

DEFNYDDIWCH Y RHAIN YN GYNNIL A CHYMERWCH YR HYN SYDD EI ANGEN ARNOCH YN UNIG! Byddwn yn ceisio darparu rhagor o gyflenwadau lle bo hynny’n bosib. Rydym yn gobeithio y bydd y cyflenwadau ar gael erbyn diwedd yr wythnos sy’n dechrau 23 Mawrth 2020.

Estynnwn ein diolch diffuant i’r holl drigolion am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth. Drwy weithio gyda ni yn ystod y cyfnod anodd hwn, gallwn sicrhau bod gwahanol fathau o wastraff yn cael eu rheoli cystal â phosib a bod Ceredigion yn cael ei chadw’n lân.

Byddwn yn ceisio darparu rhagor o wybodaeth a chyngor pan fo hynny’n bosib er mwyn ymateb i newidiadau yn y sefyllfa.

20/03/2020