Wrth ymateb i’r Coronafeirws, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ystod o fesurau i gefnogi busnesau a gweithwyr.
Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Rhyddhad Ardrethi Busnes
- Grantiau Busnes
- Gwasanaethau Cymorth Busnes
- Mynediad at gyllid
- Cymorth i Weithwyr
Mae gwybodaeth a digwyddiadau’n datblygu’n gyflym, felly mae Cyngor Sir Ceredigion wedi sefydlu un dudalen we gyda’r wybodaeth ddiweddaraf.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cefnogi galwadau i’r Llywodraeth ystyried cymorth i unigolion hunangyflogedig, gan eu bod yn ffurfio cyfran sylweddol o weithlu Ceredigion. Mae datganiad diweddar wedi bod ar hyn, ac rydym wedi diweddaru’r wybodaeth sydd ar gael.
Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd wrth i ni dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf. Felly, cynghorir eich bod yn rhoi nod tudalen ar y dudalen ac yn ei gwirio’n rheolaidd, neu dilynwch y Cyngor ar Twitter, Facebook a Instagram lle byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddiweddariadau.
Cymorth Ariannol a Grantiau
Mae’r dudalen we uchod yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cymorth sydd ar gael. Gellir cael mynediad at nifer o’r cynlluniau hyn drwy wahanol sianeli (Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, Banciau etc).
Fodd bynnag, mae cymorth penodol ar gael gan Gyngor Sir Ceredigion drwy becyn cymorth gwerth £1.4bn gan Lywodraeth Cymru i bob busnes sydd wedi’i restru ar y gofrestr ar gyfer ardrethi busnes, sy’n cwmpasu Rhyddhad Ardrethi Busnes a Grantiau Busnes.
- Rhyddhad Ardrethi Busnes
Bydd busnesau manwerthu, hamdden neu letygarwch sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu lai yn derbyn 100% o ryddhad ardrethi busnes ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21.
Sut i ymgeisio: Nid oes angen i fusnesau wneud unrhyw beth i fanteisio ar hyn. Bydd swyddogion Cyngor Sir Ceredigion yn prosesu hyn yn uniongyrchol gyda busnesau cymwys cyn gynted ag y gallant.
- Grantiau i Fusnesau
Mae dau wahanol fath o grant ar gael i fusnesau sydd wedi cofrestru i dalu ardrethi busnes ar eu safleoedd ar neu cyn 20 Mawrth 2020.
Grant 1: Bydd grant o £25,000 ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000.
Mae hyn yn golygu busnesau sy’n meddiannu eiddo megis siopau, bwytai, caffis, lleoedd yfed, sinemâu, lleoliadau cerddoriaeth byw, gwestai, adeiladau lletya a llety hunanarlwyo.
Grant 2: Grant o £10,000 i bob busnes sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnes Bach yng Nghymru gyda gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.
Nodwch fod cyfyngiad eiddo lluosog sy'n berthnasol i'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach hefyd yn berthnasol i'r grant hwn. Felly, dim ond ar gyfer uchafswm o ddau eiddo ym mhob ardal awdurdod lleol y caiff talwr ardrethi dderbyn y grant.
Sut i ymgeisio: Bydd ffurflen ar gael ar ein gwefan yn fuan.
Unwaith y byddwch wedi gwneud eich cais, byddem yn gwerthfawrogi pe gallech fod yn amyneddgar a pheidio â mynd ar drywydd y mater dros y ffôn.
Rydym yn ymwybodol o’r heriau mawr y mae busnesau yn eu hwynebu, a bydd ein staff yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eich bod yn cael eich taliadau mor fuan â phosib.
Mae staff yn gweithio mor galed ag y gallant, a gellir disgwyl taliadau o fewn pythefnos.
Cymorth Pellach
Am gyngor a chymorth pellach, cynghorir i chi gysylltu â Busnes Cymru.
Am gymorth pellach gan Gyngor Sir Ceredigion, anfonwch e-bost at cynnalycardi@ceredigion.gov.uk
27/03/2020