Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cartref lenwi’r Cyfrifiad, ac mae dal amser i'w gwblhau.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob cartref lenwi’r Cyfrifiad, ac mae dal amser i'w gwblhau.

Diwrnod y Cyfrifiad oedd 21 Mawrth 2021, ond nid yw’n rhy hwyr i lenwi’r Cyfrifiad er mwyn osgoi dirwy o hyd at £1,000.

Erbyn hyn, mae Swyddogion Maes y Cyfrifiad wedi dechrau ymweld â chartrefi nad ydynt wedi cwblhau eu harolwg. Bydd gan y swyddogion hyn fathodyn adnabod, a byddant yn gwisgo cyfarpar diogelu personol llawn (PPE), ac yn dilyn yr holl reolau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws. Bydd y swyddogion hyn yn helpu ac yn annog pobl nad ydynt wedi cwblhau eu holiadur ar bapur neu ar-lein, ynghyd â’u cyfeirio at y gwasanaethau sydd ar gael.

Gallwch gwblhau ffurflen y Cyfrifiad ar-lein trwy ddefnyddio’r cod mynediad unigryw yn eich Pecyn Cyfrifiad a ddaeth trwy’r post.

Os bydd arnoch angen cymorth, gallwch gysylltu â Chanolfan Gyswllt Gyffredinol y Cyfrifiad ar 0800 169 2021. Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Gymorth Leol y Cyfrifiad yn Llyfrgell Tref Aberystwyth trwy ffonio 01545 572377 neu anfon neges e-bost i: library@ceredigion.gov.uk. Gall y swyddogion hyn eich helpu i’w gwblhau ar bapur neu ar-lein ac ateb unrhyw gwestiynau a fydd gennych.

Mae’r Cyfrifiad yn arolwg unwaith bob degawd sy’n rhoi’r amcangyfrif mwyaf cywir o’r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Mae’n rhoi darlun o’r boblogaeth ac anghenion pobl y sir, ac yn effeithio ar y cyllid sy’n cael ei ddyrannu i Geredigion gan Lywodraeth Cymru yn flynyddol, ac felly’n effeithio ar y cyllid sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn y sir. O ganlyniad, mae’n hanfodol bwysig i bawb gymryd rhan yn yr arolwg hwn eleni.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn anelu at gyhoeddi canfyddiadau cychwynnol y Cyfrifiad ym mis Mawrth 2022. Bydd y canlyniadau llawn a fydd yn cynnwys holl ddata’r Cyfrifiad yn cael eu datgelu flwyddyn yn ddiweddarach (Mawrth 2023).

Ni ellir eich adnabod ar sail yr ystadegau a gyhoeddir. Mae’r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu yn cael ei gwarchod gan y gyfraith.

Mae’r holl wybodaeth ddiweddaraf am y Cyfrifiad ar gael ar eu gwefan, yn ogystal ag ar dudalennau We Cyngor Sir Ceredigion: Ceredigion a'r Cyfrifiad

09/04/2021