Cynhaliwyd digwyddiad chwaraeon Rhyng-Safleoedd Cefnogaeth Gymunedol yn ddiweddar yn y Ganolfan Hamdden yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog, i godi arian tuag at Sport Relief.

Mynychodd oddeutu 40 o bobl o Ganolfan Meugan (Aberteifi), Canolfan Padarn (Aberystwyth) a Chanolfan Steffan (Llambed) y digwyddiad ble cafodd amrywiaeth o gemau eu chwarae. Fe wnaeth mynychwyr hefyd gymryd rhan mewn cwis a raffl, cyn cael cinio. Mae Canolfan Padarn a Chanolfan Steffan yn ganolfannau o safleoedd cymorth cymunedol i oedolion gydag anableddau dysgu tra bod Canolfan Meugan yn wasanaeth integredig.

Dywedodd Janet Broome, Gweithiwr Prosiect yng Nghanolfan Meugan, “Roedd e’n ffantastig i weld cymaint o bobl wedi dod at ei gilydd i’r digwyddiad chwaraeon elusenol hwn, cafwyd llawer o hwyl wrth godi arian ar gyfer Sport Relief. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Iestyn Evans o’r Gwersyll yr Urdd, Llangrannog. Da iawn i bawb a gymerodd ran.”

Codwyd cyfanswm o £230 ar gyfer Sport Relief.

17/04/2018