Cynhaliwyd cynhadledd ar 12 Chwefror gan Dîm Anghenion Addysgol Ychwanegol Gwasanaethau Dysgu Ceredigion ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn ymgynghori a chodi ymwybyddiaeth o’r cod drafft newydd ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Roedd y bobl a oedd yn bresennol yn y gynhadledd yn cynnwys cynghorwyr lleol, llywodraethwyr ysgolion a gweithwyr proffesiynol o ystod o leoliadau.

Roedd y gynhadledd – a gynhaliwyd yn Theatr Felinfach – yn ystyried y ffyrdd y bydd y fframwaith statudol ADY yn newid. Bydd y Cod newydd yn disodli’r ddeddfwriaeth bresennol ar anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu a / neu anableddau.

Nod y system newydd yw gwella partneriaeth a rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau, er mwyn sicrhau bod anghenion yn cael eu hadnabod yn gynnar ac er mwyn datblygu cymorth priodol er budd y plentyn neu’r person ifanc.

Dywedodd Cynghorydd Catrin Miles, sydd â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Mae cyflwyno’r Cod drafft newydd yn gyfnod pwysig ym maes anghenion dysgu ychwanegol. Mae parhau i wella gwasanaethau yn flaenoriaeth, ac mae cyflwyno’r cod newydd hwn yn dangos ein bod ni’n deall ac yn gwrando ar anghenion pobl. Gobeithiaf y bydd nifer fawr o bobl yn elwa o’r cod newydd hwn.”

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad er mwyn casglu barn rhanddeiliaid ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth.

Maent yn trafod y cynnwys;
• Y Cod ADY Drafft
• Rheoliadau drafft yn ymwneud â Thribiwnlys Addysgol Cymru a chydlynwyr ADY
• Diwygiadau i God Ymarfer Rhan 6 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 – Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sy’n cael eu Lletya

Pe hoffech rannu eich sylwadau ynghylch yr ymgynghoriad hwn, a fyddech cystal â’u hanfon at Lywodraeth Cynulliad Cymru erbyn 22 Mawrth 2019.

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://beta.llyw.cymru/cod-anghenion-dysgu-ychwanegol-drafft neu cysylltwch â Delor Harvey, Cydlynydd ADY – Darpariaeth Disgyblion a Rhieni ar 01545570881 neu anfonwch e-bost at pps@ceredigion.gov.uk.

15/02/2019