Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn dangos eu cefnogaeth i Ddiwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Trawsffobia a Bi-ffobia (IDAHOT) ar ddydd Iau, 17 Mai gan godi baneri enfys tu allan i swyddfeydd y Cyngor yn Penmorfa, Aberaeron a Chanolfan Rheidol, Aberystwyth.

Mae'r dyddiad wedi cael ei neilltuo i nodi’r diwrnod yn 1990 pan wnaeth Sefydliad Iechyd y Byd dynnu cyfunrywioldeb oddi ar eu rhestr o anhwylderau meddyliol. Mae'n ddigwyddiad blynyddol sy’n tynnu sylw at y stigma, y cam-drin a’r gwahaniaethu y mae pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn parhau i wynebu. Mae baner yr enfys yn symbol o’r ymdrech am gydraddoldeb, urddas a pharch yn y gymdeithas.

Bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn codi ymwybyddiaeth o IDAHOT wrth rannu gwybodaeth ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol yn ystod y dydd, tra bydd trafodaethau a sesiynau creu posteri yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos. Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion trwy ddilyn eu tudalennau Facebook a Twitter, ar @GICeredigionYS.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, ac Eiriolwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch i ddangos eu cefnogaeth o IDAHOT. Fel Cyngor, rydym yn ymdrin a phawb yn gyfartal ac yn ymroddedig i ddarparu cydraddoldeb gan werthfawrogi’r amrywiaeth yn eu holl rolau fel arweinydd cymuned, darparwyr gwasanaethau a chyflogwyr. Cydraddoldeb ydy craidd popeth rydym yn ei wneud. Mae cydraddoldeb yn golygu dealltwriaeth a mynd i’r afael a rhwystrau er mwyn sicrhau bod gan bawb siawns teg i gyflawni eu potensial. Rydym wedi ymroi i ymdrin a holl drigolion Ceredigion gyda parch, ac i ddarparu gwasanaethau sy’n ymateb anghenion amrywiol pobl.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda Cymorth i Ddioddefwyr a Heddlu Dyfed Powys er mwyn codi ymwybyddiaeth o adrodd digwyddiadau troseddau casineb. Darllenwch manylion pellach ar dudalen Trosedd Casineb y Cyngor: http://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/strategaethau-cynllunio-a-pholisïau/cydraddoldeb-ac-amrywiaeth/trosedd-casineb/

09/05/2018