Llwyddodd 14 o glybiau chwaraeon o bob rhan o Geredigion i gael dros £1,300 yr un trwy Gronfa'r Gist Gymunedol, er mwyn sicrhau bod pobl yn fwy actif yn eu cymunedau.

Y clybiau i elwa o arian am offer hanfodol o'r Gist Gymunedol oedd: Clwb Bowlio Aberystwyth, Pêl-rwyd Llewod Llambed, Clwb Pêl-droed Penparcau, Clwb Pêl-droed Crannog, Aberteifi Sub Aqua, JFC Llandysul, Hamdden Caron a Chlwb Golff Iau Cilgwyn. Cafodd y Starlings, Ystrad Fflur Sports, Tresaith Mariners, Headway Ceredigion, Cynghrair Pêl-rwyd Ceredigion a'r Mighty Ducks arian i hyfforddi hyfforddwyr a dyfarnwyr newydd.

Dywedodd Wendy Davies, Cadeirydd y Panel, “Mae'r grant hwn yn helpu clybiau lleol i ddatblygu ac yn gallu cynnig cyfleoedd chwaraeon i bobl yn ein cymunedau. Mae'n gynllun gwych a byddwn yn annog mwy i wneud cais. Ein dau blaenoriaeth ar gyfer 2018 yw cefnogi gweithgareddau Merched ynghyd â chyfleoedd chwaraeon cynhwysol i bobl ag anableddau. Gwyddom y gall wneud gwahaniaeth pendant ar lawr gwlad. Mae ein Panel lleol yn cefnogi pobl newydd yn dod yn hyfforddwyr ac fel arfer maent yn cael eu hariannu’n llawn.”

Mae’r Gist Gymunedol yn cynnig grantiau hyd at £1,500 ar gyfer gweithgareddau sydd yn annog pobl i fod yn fwy actif. Gall yr arian hefyd gael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddi gwirfoddolwyr a hyfforddwyr chwaraeon, marchnata, dechrau clwb newydd ac i brynu offer newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden, “Mae'r Cyngor yn ceisio hyrwyddo a gwella iechyd a lles y sir er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Ein huchelgais yw y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cynnal sesiwn o weithgaredd 5x60 munud o leiaf bob wythnos a bydd pob oedolyn yn gwneud o leiaf sesiynau 5x30 munud erbyn 2020. Mae cronfa'r Gist Gymunedol ar gael i glybiau chwaraeon lleol i wella iechyd a lles trigolion y sir. Mae'r cynllun yn agored i unrhyw grŵp sy'n dymuno trefnu gweithgareddau sy'n anelu at gael pobl yn egnïol felly bachwch ar y cyfle.”

Mae arian ar gael o hyd i'w dosbarthu i glybiau chwaraeon lleol, gyda dau gyfarfod o'r Panel i fynd. Cysylltwch â Steven Jones ar 01970 633 587 neu stevenj@ceredigion.gov.uk i drafod sut gall Ceredigion Actif helpu eich clwb. Y dyddiad cau nesaf yw 22 Tachwedd 2018 a cheir rhagor o wybodaeth yma: http://www.ceredigionactif.org.uk/fundingc.html

03/10/2018