Mae Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig wedi penodi Pennaeth newydd i arwain yr ysgol.

Mae Dr Rhodri Thomas yn ymuno â’r ysgol ar ôl treulio cyfnod yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac Ysgol Uwchradd Aberteifi.

Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, cafodd ei addysgu yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Astudiodd Cemeg ym Mhrifysgol Rhydychen, cyn parhau i astudio am ddoethuriaeth yng Nghaeredin. Mae’n parhau i fod yn llysgennad dros bwysigrwydd y gwyddorau, ac yn awdur ar nifer o werslyfrau Safon Uwch ym maes Cemeg yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Dywedodd Dr Rhodri Thomas, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig: “Dechreuais fy ngyrfa mewn addysg uwch trwy weithio mewn prifysgolion ym Mhrydain, Yr Unol Daleithiau ac Awstralia. Roedd y gwaith o addysgu myfyrwyr, ac yn enwedig gwaith allgymorth gyda disgyblion o gefndiroedd difreintiedig wedi fy ysbrydoli. Gwelais y gwahaniaeth y gall unigolyn ei wneud i fywyd plant a phobl ifanc. Symudais i weithio mewn ysgolion uwchradd tua ugain mlynedd yn ôl, ac rwyf wedi treulio fy ngyrfa mewn ysgolion Cymraeg a dwyieithog – credaf yn gryf ym mhwysigrwydd ein gwaith i ddatblygu dinasyddion Cymraeg a Chymreig. Yn fy ngwaith ym Mhenweddig, byddaf yn canolbwyntio ar feithrin uchelgais ymhob disgybl a’u cefnogi i ddatblygu’r medrau a’r rhinweddau i wireddu eu dyheadau. Dyna’r fraint o fod yn athro – rydym yn gweithio i helpu disgyblion i wireddu eu breuddwydion.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: “Bûm yn cydweithio, fel llywodraethwr, gyda Dr Rhodri Thomas yn ystod ei gyfnod yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Aberteifi ac rwy’n falch dros ben gallu ei groesawu nôl i Geredigion. Dymuniadau gorau a phob llwyddiant iddo yn ei rôl newydd ym Mhenweddig.”

Dywedodd Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion a Diwylliant Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn falch iawn o groesawu Dr Rhodri Thomas i Benweddig, ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio er lles a budd holl ddisgyblion a staff yr ysgol.”

Hoffai Cyngor Sir Ceredigion ddiolch yn fawr i Rhian Morgan am ei gwaith yn Bennaeth Dros Dro ar yr ysgol, gan ddymuno’n dda i Dr Rhodri Thomas wrth iddo gydio yn yr awenau.

16/09/2020