Oes gennych chi syniad a arweinir gan y gymuned a allai wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Ngheredigion? Mae Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl) Cynnal y Cardi yn gofyn i drigolion anfon eu syniadau neu fynegiant o ddiddordeb ar gyfer prosiect i mewn erbyn Dydd Llun, 29 Ebrill.

Mae GGL Cynnal y Cardi yn edrych ym mhenodol am syniadau sy'n ymwneud â’r themau LEADER canlynol; hwyluso gweithgarwch cyn-fasnachol a phartneriaethau a rhwydweithiau busnes newydd; archwilio cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy a manteisio i’r eithaf ar dechnoleg ddigidol mewn cymunedau lleol. Ymwelwch â www.cynnalycardi.org.uk am fwy o wybodaeth ar gyd o’r themâu LEADER.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Economi ac Adfywio, Cyngor Sir Ceredigion, “Mae gan Geredigion llawer o botensial ac felly rydym yn edrych am syniadau arloesol gan bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i'w cymunedau gwledig. Rydym yn gobeithio y bydd yr alwad hwn am syniadau prosiect yn parhau i wella gallu cymunedau gwledig, gan ddarparu cyfleoedd i ddatblygu economi wledig Ceredigion. Boed yn brosiect peilot neu astudiaeth ddichonoldeb sydd angen cefnogaeth a datblygu – mae'n gam cadarnhaol tuag at Geredigion cryfach a mwy cadarn.”

Mae Cynnal y Cardi yn cael ei weinyddu gan Cyngor Sir Ceredigion. Mae ganddo nifer o themau lle mae syniadau'n cael eu ceisio o dan y cynllun LEADER. Cynorthwyir LEADER, sy'n ceisio cefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd neu sialensiau y mae cymunedau gwledig yn eu hwynebu, trwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I drafod eich syniadau ac am wybodaeth ynglŷn a chymhwysedd y cymorth, cysylltwch â dîm Cynnal y Cardi ar 01545 572063 neu ewch i www.cynnalycardi.org.uk. Y dyddiadau cau yn 2018 ar gyfer cyflwyno syniadau/datganiadau o ddiddordeb yw: 29 Ebrill, 24 Mehefin, 9 Medi a 11 Tachwedd. Croesewir pob cyflwyniad yn Gymraeg neu yn Saesneg.

 

04/04/2019