Mae Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl) Cynnal y Cardi yn chwilio am syniadau prosiect arloesol a arweinir gan y gymuned a allai wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r bobl sy'n byw a gweithio yng Ngheredigion.

Mae gan Cynnal y Cardi, a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion, pum thema lle ceisir syniadau o dan y cynllun LEADER. Croesawir pob syniad, ar sail dreigl, a Dydd Llun, y 5 Mawrth yw’r dyddiad cau cyntaf yn 2018 ar gyfer cyflwyno syniadau neu datganiadau o ddiddordeb.

Cynorthwyir LEADER, sy'n ceisio cefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd neu sialensiau y mae cymunedau gwledig yn eu hwynebu, trwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Datblygu Economaidd a Chymuned, Cyngor Sir Ceredigion, “Rydym yn gobeithio y bydd yr alwad hwn am syniadau prosiect yn parhau i wella gallu cymunedau gwledig, gan ddarparu cyfleoedd i ddatblygu economi wledig Ceredigion.”

Mae’r pum thema y gall syniadau gael eu cefnogi yn cynnwys: gwella adnoddau naturiol a diwylliannol Ceredigion; hwyluso gweithgarwch cyn-fasnachol a phartneriaethau a rhwydweithiau busnes newydd; archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau anstatudol, cyfleusterau a gweithgareddau; archwilio cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy a manteisio i’r eithaf ar dechnoleg ddigidol mewn cymunedau lleol. Mae Cynnal y Cardi yn croesawu syniadau o dan unrhyw un o'r pum thema uchod, yn arbennig y rhai y gall eu cefnogi o dan yr ail, pedwerydd a’r pumed thema.

Nod yr ail thema yw cefnogi economi sy’n seiliedig ar wybodaeth, yn cryfhau rhwydweithiau rhwng y sectorau cymunedol a busnes drwy rannu arfer gorau ac adnoddau. Mae cefnogi cyfleoedd newydd ac arloesol yn allweddol i’r thema hon o ran treialu cynnyrch/prosesau newydd a chefnogi gwaith dichonoldeb ac ymchwil.

Un o'r heriau sy'n wynebu Ceredigion yw’r nifer o bobl ifanc sy’n gadael y sir i ddod o hyd i waith mewn mannau eraill. Croesawir syniadau o dan yr ail thema i gefnogi mentrau sy'n cynorthwyo unigolion i gael mynediad at waith, hyfforddiant, cyfleoedd gwirfoddoli a gwasanaethau eraill ac i annog sgiliau arweinyddiaeth yn ogystal ag uwch-sgilio gweithlu cyflogaeth Ceredigion.

Nod y bedwaredd thema yw cefnogi syniadau sy'n ymwneud ag ynni adnewyddadwy ar lefel gymunedol. Mae cymorth ar gael ar gyfer gwaith cyn-ddatblygu megis hwyluso cyfarfodydd partneriaid/rhanddeiliaid, ymgymryd ag ymweliadau astudio ymgyfarwyddo ac ymchwilio i ddichonoldeb datblygu menter gymunedol adnewyddadwy. Mae lleihau effaith y cynnydd hirdymor mewn costau byw yn flaenoriaeth hefyd.

Mae’r pumed thema yn cefnogi syniadau sy’n sicrhau y gwneir y defnydd gorau o dechnolegau newydd a’r rheiny sy’n dod i’r amlwg, sy'n allweddol i ddatblygu'r economi wledig. Gall syniadau ymwneud â threialu prosiectau sy'n gwella’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu i ardaloedd mwy anghysbell; sy’n mynd i’r afael ag arwahanrwydd; sy'n cefnogi datblygu sgiliau a chyfleoedd hyrwyddo’r sectorau diwylliant a threftadaeth ar gyfer manteision economaidd y sir.

Dywedodd Mared Rand Jones, Cadeirydd GGLl Cynnal y Cardi: “Dyma rai o’r meysydd gweithgarwch lle mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi yn edrych i gefnogi. Mae gan Geredigion llawer o botensial ac felly rydym yn edrych am syniadau arloesol gan bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i'w cymunedau gwledig. Boed yn brosiect peilot neu astudiaeth ddichonoldeb sydd angen cefnogaeth a datblygu – mae'n gam cadarnhaol tuag at Geredigion cryfach a mwy cadarn.”

I drafod eich syniadau ac am wybodaeth ynghylch bod yn gymwys am gefnogaeth, ffoniwch Meleri Richards neu Marie Evans ar 01545 572063 neu ewch i www.cynnalycardi.org.uk. Y dyddiadau cau yn 2018 ar gyfer cyflwyno syniadau/datganiadau o ddiddordeb yw: 05 Mawrth; 11 Mehefin; 10 Medi; a 17 Rhagfyr. Croesewir pob cyflwyniad yn Gymraeg neu yn Saesneg.

15/02/2018