Roedd Ceredigion yn cynrychioli Awdurdodau Lleol y DU mewn cyfarfod Ewropeaidd i drafod ymagwedd gymunedol i ailsefydlu ffoaduriaid.

Mae cynllun nawdd cymunedol y DU yn caniatáu i grwpiau lleol wneud cais i'r Swyddfa Gartref i ailsefydlu teulu ffoaduriaid yn eu cymuned leol.

Lansiwyd cynllun y DU yn 2016. Mae canolbarth a gorllewin Cymru wedi bod yn rhagweithiol iawn gyda thri grŵp yn Sir Benfro a dau grŵp yng Ngheredigion yn cymryd rhan. Rhaid i grwpiau sy'n dymuno cymryd rhan gael caniatâd y Cyngor Sir neu ni fydd y Swyddfa Gartref yn derbyn eu cynnig. Teithiodd Cydlynydd Ffoaduriaid Cyngor Sir Ceredigion i Frwsel i egluro'r broses hon i gynrychiolwyr o'r Eidal, Rwmania, yr Almaen, Gwlad Belg, Awstria, Hwngari, yr Iseldiroedd ac Iwerddon.

Dywedodd y Cydlynydd Ffoaduriaid, “Mae'r Almaen ac Iwerddon wrthi'n sefydlu cynllun cymunedol. Roedd yn ddiddorol cymharu nodiadau gyda phobl o'r gwledydd hyn a siarad ag eraill a allai fod eisiau sefydlu rhywbeth yn y dyfodol. Roedd ganddynt ddiddordeb mawr yn ein profiad a'r gwersi a ddysgwyd.”

Mae Aberaid yn Aberystwyth a Chroeso Teifi yn Aberteifi, yn elusennau cofrestredig. Maent wedi gwneud cais llwyddiannus i ailsefydlu teuluoedd a oedd yn ffoi rhag gwrthdaro o dan y cynllun nawdd cymunedol yng Ngheredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd Grŵp Ailsefydlu Ffoaduriaid Ceredigion, “Roedd Ceredigion yn un o'r Cynghorau Sir gyntaf i ymgysylltu â chynllun adsefydlu ffoaduriaid Syria. Mae'n dda gweld ein bod hefyd yn arwain y ffordd gyda nawdd cymunedol. Rydw i wedi cwrdd â gwirfoddolwyr o Aberaid a Croeso Teifi. Mae'r ddau grŵp yn ymroddedig iawn i'r cynllun.”

05/11/2018