Ar 08 Medi, Aberaeron fydd y lleoliad a fydd yn cynnal dechrau pedwerydd cymal y Tour of Britain y mae disgwyl mawr amdani. Bydd y llwybr yn mynd â beicwyr o Aberaeron i fyny i Aberystwyth ac yna i’r Borth cyn symud ymlaen i Abermaw.

Mae'r ras, a fydd yn gweld beicwyr gorau'r byd yn cystadlu mewn lleoliadau eiconig ledled y Deyrnas Unedig yn gyfle i arddangos y golygfeydd hyfryd sydd gan Geredigion i'w cynnig; o'n bryniau tonnog i'n harfordir trawiadol.

Mae Cyngor Sir Ceredigion, wrth gydweithio â threfnwyr y Tour of Britain, yn cynnal diogelwch y cyhoedd a bydd Aberaeron yn ddechrau caeedig i’r cymal; ni chaniateir gwylwyr ar ddechrau lleoliad y pedwerydd cymal. Serch hynny, gall gwylwyr barhau i gefnogi'r digwyddiad ar hyd y llwybr wrth gofio cadw pellter cymdeithasol a dilyn mesurau diogelwch ar y ffyrdd fel cerddwr, beiciwr a ffan. Gall cefnogwyr hefyd fwynhau gwylio'r digwyddiad o gysur eu cartref eu hunain gan y bydd yn cael ei ddarlledu.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: ‘Rydym yn falch iawn o groesawu’r Tour of Britain i Geredigion eleni. Wrth i'r Daith deithio i fyny'r arfordir hyfryd o Aberaeron tua gogledd y sir, bydd pobl yn gallu profi'r golygfeydd trawiadol trwy ddarllediad eang y ras ar ITV4. Mae teithio llesol a gwella ein hiechyd a'n lles yn flaenoriaeth allweddol i ni yma yng Ngheredigion; efallai mai hwn fydd y digwyddiad i chi a fydd yn tanio diddordeb newydd mewn beicio. Os felly, mae Ceredigion yn barod gyda'n digonedd o lwybrau a thraciau i chi eu harchwilio.”

Bydd y ffyrdd canlynol yn cau dros dro yn ystod y digwyddiad ar sail dreigl rhwng 10:00 a 13:00 wrth i'r beicwyr basio trwodd:

• Yr A487 rhwng Aberaeron ac Aberystwyth.
• Ffordd Alexandra a Ffordd y Môr, Aberystwyth.
• Yr A487 rhwng Rhodfa’r Gogledd, Aberystwyth a Rhydypennau.
• Y B4353 drwy’r Borth, Ynyslas, Llangynfelyn a Thre'r-ddôl.
• Yr A487 yng ngogledd o Dre’r-ddol y sir hyd at y ffin â Phowys

Er mwyn helpu trigolion ac ymwelwyr i gynllunio eu diwrnodau o amgylch y digwyddiad cyn ras 2021, mae canllawiau gwybodaeth a mapiau ar gael ar wefan y Tour of Britain, www.tourofbritain.co.uk/stages/stage-four . Gellir gweld mesurau covid-19 y Tour of Britain yma: www.tourofbritain.co.uk/covid-update/

Ar gyfer gwybodaeth am ble i aros, lleoedd i weld, a ble i fwynhau bwyd a diod lleol, ewch i http://www.darganfodceredigion.cymru/.

Dilynwch Gyngor Sir Ceredigion ar Facebook, Twitter neu Instagram ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf am ffyrdd sydd ar gau a gwybodaeth arall sy'n ymwneud â'r digwyddiad. Cefnogwch yn ddiogel ac yn gyfrifol.

24/08/2021