Bydd OVO Energy Tour Series yn dychwelyd i Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 26 Mai – yr unig rownd Gymraeg o'r daith o amgylch trefi a dinasoedd Prydain. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o westeio’r digwyddiad eto eleni gyda chefnogaeth ariannol gan Gyngor Tref Aberystwyth ac Advancing Aberystwyth ar y Blaen i sicrhau’r digwyddiad ar gyfer Aberystwyth.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb dros Ddatblygu Economaidd a Chymunedol, “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu yr OVO Energy Tour Series i Aberystwyth eto eleni ac i weithio wrth ochr trefnwyr Gŵyl Seiclo Aber i sicrhau 10 diwrnod o ddigwyddiadau seiclo. Mae beicio yn gamp hynod boblogaidd, ac mae llwyfannu’r digwyddiadau yma yn rhoi cyfle i ni arddangos Aberystwyth a Cheredigion ar eu gorau.

Bydd rownd Aberystwyth y Daith yn arbennig o gyffrous eleni gan y bydd timau proffesiynol dynion a menywod yn cynnwys medalwyr 2018 Gemau'r Gymanwlad. Yn ogystal a bod yn gyfle i weld beicwyr rasio adnabyddus ar strydoedd y dref, bydd yr ŵyl hefyd yn gyfle gwych i blant ysgol a beicwyr amatur lleol ddangos eu sgiliau ac i gystadlu am le ar y podiwm.”

Eleni, bydd rasys beicio'r plant yn cael eu cynnal fore dydd Sadwrn, 26 Mai gan nodi newid yn y 7 mlynedd diwethaf pan gafodd eu cynnal ar y dydd Gwener. Bydd rasys beicio i ferched a bechgyn ym mlwyddyn 3, 4, 5 a 6 yn dechrau am 9yb. Gŵyl hwyl boreol yw hwn i feicwyr y dyfodol gyda chyfle perffaith i rasio mewn amgylchedd caeedig, diogel o gwmpas y dref. Bydd plant oed Ysgol Uwchradd yn gallu cymryd rhan yn Ras Beicio Cymru. Mae cofrestru yn orfodol ar www.abercyclefest.co.uk erbyn 21 Mai.

Mae Gŵyl Seiclo Aber yn 10 diwrnod llawn dop o weithgareddau a digwyddiadau seiclo o 19 tan 29 Mai, ac yn ddathliad o seiclo yng Ngheredigion. Mae’r Tour Series yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl yn ogystal â rasio chwim yng nghanol y dref, rasys beicio mynydd lan a lawr rhiw a reid dorfol Sportif Gorllewin Gwyllt Cymru. Mae’r ŵyl yn cynnwys digwyddiadau ymylol trwy gydol yr wythnos, ac wrth gwrs yn dod a holl gyffro rasys seiclo canol y dref trwy dydd a gyda’r nos ar 26 Mai.

Mae Gŵyl Seiclo Aber yn parhau i fynd o nerth i nerth wrth iddo ddatblygu i fod yn un o ddathliadau beicio mwyaf Cymru, gyda dros 1,100 o feicwyr yn cymryd rhan yn y digwyddiad y llynedd. Mae trefnwyr y digwyddiad yn derbyn ymholiadau gan feicwyr o bob rhan o'r DU wrth i enw da'r wyl ymledu ledled y wlad.

Bydd OVO Energy Tour Series o Aberystwyth, sef Rownd 5 allan o 8, yn cael ei ddarlledu ar ddydd Llun, 28 Mai am 22:00 ar ITV.

Cau Ffyrdd

Er mwyn sicrhau llwyddiant y digwyddiad, bydd y ffyrdd isod yn cael eu cau ar ddyddiadau ac amseroedd penodol rhwng 25 a 27 Mai.

08:00-06:00 o 25.05.2018 i 27.05.2018:
Stryd y Ro, Maes Mihangel, Stryd Fawr Uchaf, Stryd yr Efail, Maes Iago, Maes Laura, Stryd y Castell, Porth Bach

00:01-06:00 o 26.05.2018 i 27.05.2018:
Rhodfa Newydd, Tan-y-Cae, Maes Laura, Stryd y Brenin, Y Stryd Newydd, Stryd y Castell, Ffordd Penmaesglas, Stryd y Tollty

03:00-06:00 o 25.05.2018 i 27.05.2018:
Heol y Wig, Glan-y-Môr, Heol y Bont, Y Stryd Fawr

00:01-20:00 ar 26.05.2018:
Rhodfa Fuddug

08:00-16:00 ar 28.05.2018
Cefnllan, Llanbadarn Fawr

11/05/2018