Mae talent a doniau disglair ieuenctid Ceredigion wedi dod a’r sir i’r ail safle yng nghynghrair llwyddiannau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed eleni ar faes y Sioe, Llanelwedd rhwng 28 Mai a 2 Mehefin.

Bu’r cystadleuwyr, yr athrawon a’r hyfforddwyr yn ddiwyd iawn eto eleni, gan weld ffrwyth eu llafur wrth i bobl ifanc y sir lwyddo yn genedlaethol mewn amryw o gystadlaethau. Enillodd Ceredigion 52 medal gyntaf, 46 ail a 39 trydydd, gyda chyfanswm o 137, dim ond dau bwynt oddi wrth Eryri a ddaeth i’r brig.

Profodd bobl ifanc ar draws y sir eu sgil gyda llwyddiannau lu mewn cystadlaethau gwaith cartref a chelf a chrefft cyn cyrraedd wythnos yr ŵyl. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gwelwyd talent eithriadol gan ieuenctid Ceredigion wrth gystadlu mewn cystadlaethau yn cynnwys canu, adrodd a dawnsio.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Mae ein hieuenctid unwaith eto wedi dangos eu doniau a’u sgiliau i’r genedl ar ac oddi ar y llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Mae eu hathrawon a’u hyfforddwyr diwyd wedi rhoi o’u hamser i ddatblygu’r bobl ifanc yma i geisio eu gorau yn yr amryw gystadlaethau. Mae cyrraedd yn ail agos iawn yn y tabl canlyniadau yn gyflawniad eithriadol, ac mae popeth yn cychwyn yn lleol o fewn Ceredigion. Rydym ni i gyd yn eithriadol o falch o’r bobl ifanc yma, a dyfalbarhad ac ymroddiad pawb a gymrodd ran mewn unrhyw fodd yn ystod yr wythnos. Llongyfarchiadau a da iawn bawb!”

Gellir gweld y canlyniadau i gyd ar wefan yr Urdd.

04/06/2018