Bob mis Hydref, bydd ‘Show Racism the Red Card’ yn dal ei Diwrnod Gwisgo Coch blynyddol Bydd dydd Gwener, 18 Hydref yn nodi’r pumed pen-blwydd yr ymgyrch. Eleni, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn dangos ei gefnogaeth drwy'r holl ysgolion, swyddfeydd a Siambr y Cyngor drwy wisgo coch.

Mae Diwrnod Gwisgo Coch yn ddiwrnod gweithredu cenedlaethol sy'n annog ysgolion a busnesau i wisgo coch a chodi arian er mwyn helpu i hwyluso'r broses o gyflwyno addysg gwrth-hiliaeth i bobl ifanc ledled Lloegr, yr Alban a Chymru. ‘Show Racism the Red Card’ yw elusen addysgol gwrth-hiliaeth fwyaf y DU.

Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a’r aelod Eiriolwr ar gyfer Cydraddoldeb ag Amrywiaeth. Dywedodd: "Yn anffodus, rydyn ni'n dal i glywed yn rheolaidd am hiliaeth yn digwydd yn y gymdeithas a chwaraeon. Mae ymgyrchoedd fel hyn yn codi ymwybyddiaeth o'r sefyllfa ac yn rhoi'r cyfle i'n hysgolion, swyddfeydd a staff uno i ddangos na fydd hiliaeth yn cael ei oddef yng Ngheredigion. Byddaf yn gwisgo coch ar 18 Hydref ac rwy'n gobeithio y byddwch chithau hefyd.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr ymgyrch a sut y gallwch gymryd rhan yma: https://www.theredcard.org/wear-red-day

01/10/2019