Mae'r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ieuenctid a'r rheini sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru gan gynnwys gwirfoddolwyr, rheolwyr a phartneriaid cymunedol.

Mae gwaith ieuenctid yn darparu ac yn hwyluso amgylchedd lle gall pobl ifanc ymlacio, cael hwyl, teimlo'n ddiogel, cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi. Trwy gyfleoedd a phrofiadau addysgol anffurfiol, mae gwaith ieuenctid yn herio pobl ifanc i wella eu cyfleoedd mewn bywyd.

Yn 2019, llwyddodd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion i gael dau brosiect ac un gwirfoddolwr ar y rhestr fer gyda dau yn ennill eu categorïau. Eleni, mae'r Gweithiwr Ieuenctid, Rebecca Williams, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y categori Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol.

Dywedodd Gwen Evans, Rheolwr y Tîm Gwaith Ieuenctid Cymunedol ac Atal: “Fe benderfynon ni fel gwasanaeth enwebu Rebecca am ein bod yn cydnabod yr ymdrechion a'r ymrwymiad rhagorol y mae hi wedi'u dangos drwy gydol y pandemig ac sy’n parhau i gael effaith fawr ar fywydau pobl ifanc. Ers i argyfwng Covid-19 ddechrau, mae Rebecca wedi addasu ei gwaith i fod yn ddigidol ac yn wyneb yn wyneb, yn dibynnu ar anghenion y bobl ifanc, gan sicrhau nad yw pobl ifanc yn teimlo'n ynysig a sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys mewn gweithgareddau ar-lein, yn derbyn galwadau ffôn ac ymweliadau wrth garreg y drws, ac mae hyn wedi datblygu’n ddiweddar i gynnwys teithiau cerdded lles a grwpiau gweithgareddau strwythuredig.”

Yn ogystal â hyn, mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr 'Dangos rhagoriaeth ar lefel leol wrth gynllunio a darparu mewn partneriaeth' am y dull gweithredu cydweithredol y maent wedi'i ddangos drwy gydol y pandemig.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc ledled Ceredigion wedi bod yn cefnogi eu cymunedau gwledig lleol yn ystod pandemig COVID-19. Gan amrywio o ddosbarthu nwyddau hanfodol a chasglu presgripsiynau, i fynd â chŵn am dro a chysylltu â’r rhai mwyaf agored i niwed, mae aelodau’r CFfI, pobl ifanc, wedi camu i’r bwlch ac wedi cefnogi eu cymunedau. Teimlwn fod ymateb CFfI Ceredigion yn ystod y pandemig yn enghraifft wych o sut mae sylfeini cadarn Gwaith Ieuenctid o ansawdd da wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl a chymunedau sy'n agored i niwed yn ystod blwyddyn hynod o heriol.”

Dywedodd Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer Porth Cymorth Cynnar: “Mae'n wych i'r gwasanaeth gael y cydnabyddiaethau hyn am y gwaith caled a'r gwydnwch a ddangoswyd drwy gydol y cyfnod hwn. Mae'n dyst iddynt fel unigolion ac i’r gwaith tîm a ddangoswyd er budd pobl ifanc a'u cymunedau. Rydym hefyd wedi derbyn cyllid Grant Cymorth Ieuenctid ychwanegol i ddatblygu gweithgareddau Cymraeg yn ddiweddar yn ogystal â datblygu'r gwaith sy'n ymwneud â chymorth emosiynol a chymorth iechyd meddwl cynnar i bobl ifanc. Bydd hyn yn ein galluogi i barhau i weithio'n agos ac yn effeithiol gydag ystod eang o bartneriaid gwirfoddol a phartneriaid yn y trydydd sector i ddatblygu cyfleoedd i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.” 

Caiff yr holl enwebiadau eu hasesu gan banel o feirniaid sy'n cynnwys pobl ifanc a chynrychiolwyr o'r sector gwaith ieuenctid yng Nghymru. Bydd y Seremoni Wobrwyo yn cael ei chynnal yn rhithiol ar 9 Rhagfyr lle bydd pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu cyhoeddi.

I gael rhagor o wybodaeth am waith Porth Cymorth Cynnar a'r Gwasanaeth Cymorth ac Atal, ewch i'w tudalen Facebook, Twitter neu Instagram ar @GICeredigionYS, . Gallwch hefyd ymweld â’r wefan www.giceredigionys.co.uk/hafan/ neu anfonwch e-bost at porthcymorthcynnar@ceredigion.gov.uk.

14/10/2021