Gyda chyfyngiadau’r coronafeirws yn cael eu llacio, mae Ceredigion yn croesawu ymwelwyr yn ddiogel ac yn raddol.

Cydnabyddir bod pryderon yn y gymuned. Bydd pobl yn symud o gwmpas ac yn mynd a dod.

Mae gan Gyngor Sir Ceredigion fesurau ar waith i sicrhau diogelwch pawb o fewn y sir. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno Parthau Diogel yng nghanol ein trefi, olrhain cyswllt, a chanllawiau ar gyfer ein sector twristiaeth, sy’n cynnwys canllawiau i ymwelwyr tra byddant yng Ngheredigion.

Cadwyd rheol Aros yn Lleol Llywodraeth Cymru ar waith er mwyn helpu pob rhan o Gymru i reoli lledaeniad y feirws a pharatoi’n briodol i groesawu ymwelwyr yn ôl. Mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r diwydiant twristiaeth i sicrhau bod ymwelwyr yn parchu ac yn dilyn arweiniad lleol ac yn ei dro bod ein cymunedau lleol yn croesawu ymwelwyr yn ôl i'r Sir.

Gyda’n gilydd, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol. Ond nid yw popeth yn ôl i’r arfer o hyd ac mae risgiau o hyd. Mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud y canlynol:

  • Parchu a gofalu am ein gilydd
  • Parchu a gofalu am ein cymunedau
  • Cefnogi busnesau lleol
  • Gofalu am ein hamgylchedd lleol
  • Parchu rheolau a chyngor Llywodraeth Cymru

Mae’r penderfyniadau yr ydym i gyd yn eu gwneud yn effeithio'n uniongyrchol ar bobl eraill, felly mae angen i bob un ohonom ofalu am ein gilydd ac ymddwyn yn barchus ac yn gyfrifol er mwyn cadw Ceredigion yn ddiogel.

Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu. Mae’n rhaid i ni barhau i barchu rheolau a chyngor Llywodraeth Cymru. Cadwch Ceredigion yn ddiogel.

Am y wybodaeth ddiweddaraf yng Ngheredigion, ewch i dudalen y coronafeirws.

16/07/2020