Bydd disgyblion Ceredigion yn dychwelyd i’w hysgolion gam wrth gam o fis Medi ymlaen.

Bydd tymor yr hydref yn dechrau ar 3 Medi 2020, gyda’r disgyblion yn dychwelyd yn raddol nes bod pawb yn ôl ar drefniant llawn-amser erbyn 14 Medi 2020.
Dymuna Cyngor Sir Ceredigion ddiolch i’r holl staff am eu gwaith caled dros yr wythnosau diwethaf yn sicrhau bod y trefniadau priodol ar waith i ddiogelu iechyd a lles y staff a’r disgyblion.

Bydd yna systemau unffordd ar waith mewn ysgolion, grwpiau swigen fesul blwyddyn a dosbarth, disgyblion yn eistedd yn wynebu blaen y dosbarth, yn hytrach nag yn wynebu ei gilydd, ac amserau egwyl a chinio gwasgaredig. Bydd staff hefyd yn parhau i gymryd tymheredd pob disgybl wrth iddynt gyrraedd y safle. Byddwn yn sicrhau hylendid da trwy sicrhau cyfleoedd golchi dwylo rheolaidd gydol y dydd a chyflenwad o hylif diheintio dwylo mewn llefydd lle nad ydy golchi dwylo yn bosibl, ynghyd â sicrhau digon o awyr iach o fewn dosbarthiadau. Yn ogystal, bydd yr ysgolion yn cael eu glanhau yn ystod y dydd ac ar ôl oriau ysgol. Bydd y system Olrhain Cysylltiadau yn cael ei defnyddio os bydd yna achos o’r coronafeirws, a bydd gan bob ysgol ystafell ynysu benodol os bydd disgybl neu aelod o’r staff yn teimlo’n anhwylus yn ystod y dydd, gydag arwyddion clir yn cael eu gosod o gwmpas y safleoedd i bwysleisio pwysigrwydd hylendid a chadw pellter cymdeithasol. Bydd ysgolion uwchradd hefyd yn gofyn i bob disgybl gario gorchudd wyneb gyda nhw a bydd disgwyl iddynt eu defnyddio yn unol â pholisi Asesu Risg yr ysgol.

Bydd trefniadau cludiant yn parhau yng Ngheredigion ar gyfer y disgyblion hynny sy’n deilwng i gael trafnidiaeth ysgol, a hynny’n unol â pholisi Trafnidiaeth y sir. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn disgwyl i ddisgyblion wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth ysgol. Dyletswydd rhieni/gofalwyr fydd darparu gorchudd wyneb ar gyfer eu plentyn. Nid yw pellter cymdeithasol yn ofynnol ar drafnidiaeth ysgol ac felly mae’r Cyngor o’r farn y dylid cymryd y cam o wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth ysgol fel un dull o leihau risgiau.

Bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu’n barhaus, ac rydym yn diolch i bawb am eu hamynedd a’u cydweithrediad wrth i ni sicrhau mai iechyd a diogelwch yr holl ddisgyblion a’r staff yw’r flaenoriaeth. Anelwn at sicrhau bod ein disgyblion yn derbyn profiad addysgol mor llawn ag sydd yn bosibl oddi fewn i’r amgylchiadau hyn.

Bydd Penaethiaid pob ysgol wrth law i roi sicrwydd i ddisgyblion, rheini a gofalwyr am unrhyw agwedd ar y paratoadau hyn, ac mae Cwestiynau Cyffredin ar gael yma.

Edrychwn ymlaen at groesawu hen wynebau a wynebau newydd yn ôl i’r ysgolion ym mis Medi, gan ddymuno tymor llwyddiannus, llawn addysg, i bawb.

27/08/2020