Cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion heddiw ei fod wedi cytuno i gymryd rhan yng nghynllun y Swyddfa Gartref i adleoli pobl o Afghanistan sydd mewn perygl o wynebu dial dan law’r Taliban.

Mae’r golygfeydd sy’n datblygu yn Afghanistan yn dangos y rôl allweddol y mae’n rhaid i’r gymuned ryng-genedlaethol ei chwarae er mwyn diogelu pobl sydd wedi eu dadleoli gan ryfel, erledigaeth ac ansefydlogrwydd gwleidyddol. Mae llywodraeth y DU wedi cytuno i ariannu cynllun sy’n cynorthwyo pobl o Afghanistan i adleoli i’r DU, hynny yw Staff a Gyflogir yn Lleol (LES) a phobl sydd wedi gweithio dros y DU ac wedi peryglu eu bywydau ochr yn ochr â lluoedd Prydain yn Afghanistan yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.

Yn dilyn penderfyniad gweithredol gan Arweinydd y Cyngor a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol, mae swyddogion y Cyngor mewn cysylltiad agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy’n cydlynu’r broses adleoli ledled Cymru. Mae cyfarfod brys wedi ei drefnu o’r Grŵp Adleoli Ffoaduriaid er mwyn cydlynu cymorth dyngarol Ceredigion yn wyneb yr argyfwng sy’n datblygu.

Bydd y cynllun yn cefnogi’r rhai sy’n wynebu perygl mawr i’w bywydau yn y dyfodol agos a hefyd y sawl a weithiodd dros Lywodraeth Prydain mewn swyddogaethau a oedd yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y broses o gyflawni cenhadaeth y DU yn Afghanistan. Oni bai am y bobl hyn, byddai gweithrediadau’r DU wedi eu llesteirio. Ymhlith y swyddi hyn roedd cyfieithwyr i’r milwyr ar batrôl, ymgynghorwyr diwylliannol, gwasanaethau o fewn y llysgenhadaeth a swyddi gwleidyddol a gwrth-derfysgaeth.

Mae'r Cyngor yn rhagweld y gellir dod o hyd i lety yn y sector rhentu preifat yn ein cymunedau. Dylai'r llety fod o safon addas, yn hunangynhwysol, gyda chegin a chyfleusterau ymolchi digonol, a bydd angen iddynt fod ar gael am o leiaf 12 mis. Telir y rhent ar lefel Lwfans Tai Lleol (budd-dal tai).

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd Grŵp Adleoli Ffoaduriaid Ceredigion. Dywedodd: “Mae’r argyfwng dyngarol sy'n digwydd yn Afghanistan yn peri gofid mawr, ac ni ellir ond dychmygu’r anobaith a’r ofn a deimlir gan y rhai a fu'n gweithio i'n Lluoedd Arfog ac adrannau a chynlluniau Llywodraeth y DU yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf wrth iddynt geisio ffoi rhag y Taliban. Oherwydd hynny, penderfyniad hawdd oedd gwneud penderfyniad gweithredol i groesawu o leiaf un teulu i'n sir.

Gwn y bydd y gymuned yng Ngheredigion yn gefnogol ac yn rhoi croeso cyn gynted ag y gallwn ddod o hyd i eiddo addas. Rwyf wedi cael y fraint o weld sut y mae trigolion Ceredigion wedi croesawu dros 60 o ffoaduriaid o Syria i'n plith dros y chwe blynedd diwethaf, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth na fyddwn yn cynnig yr un cymorth a chroeso cynnes i'n cynghreiriaid o Afghanistan. Rwyf yn galw ar y gymuned i helpu i ddod o hyd i lety i'r teuluoedd hyn ar unwaith. Byddwn hefyd yn ystyried opsiynau eraill."

Cynhelir cyfarfod Cabinet ar 7 Medi i drafod safbwynt y Cyngor ar adleoli Staff o Afghanistan a Gyflogir yn Lleol (LES).

Bydd y Cyngor yn gwahodd y gymuned i nodi unrhyw eiddo hunangynhwysol yn y sector preifat a allai fod ar gael, yn ogystal ag archwilio opsiynau posibl eraill. Os gallwch helpu neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n Canolfan Gyswllt ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk a gofynnwch am y Cydlynydd Adleoli Ffoaduriaid.

20/08/2021