Am 8:30yh ar ddydd Sadwrn 24 Mawrth, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ymuno a channoedd o filiynau o bobl ar draws y byd sydd yn mynd i ddiffodd eu goleuadau am awr i ddangos eu cefnogaeth o weithred ar newid hinsawdd.

Mae eleni yn nodi 11 mlynedd ers sefydlu Awr Ddaear gan y WWF, digwyddiad sydd yn parhau i dyfu’n flynyddol gyda mwy o bobl nag erioed yn addo i ddangos eu cefnogaeth i weithredu ar newid hinsawdd. Eleni, mae WWF yn gofyn i bawb addo newid un peth yn eu bywyd bob dydd a fydd yn helpu i amddiffyn y blaned gyda Addewid i’r Blaned, #PromiseForThePlanet.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Reoli Carbon a Chynaliadwyedd, “Unwaith eto eleni, mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o allu estyn cefnogaeth i’r Awr Ddaear. Ein Addewid i’r Blaned fydd lleihau’r defnydd o blastig untro sy’n cael eu defnyddio gan y cyngor ac i gefnogi mentrau lleihau plastig yng Ngheredigion. Rydym yn annog cymunedau a’r busnesau lleol i wneud Addewid i’r Blaned boed hynny yn ailgylchu mwy, cario cwpan coffi neu botel dŵr amldro, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu rannu car. Ymunwch â ni i gefnogi’r digwyddiad ddiffodd golau byd-eang ar gyfer Awr Ddaear.”

Bydd y lleoliadau canlynol yng Ngheredigion yn diffodd eu golau fel rhan o Awr Ddaear:

• Castell Aberystwyth
• Craig-lais, Aberystwyth
• Canolfan Alun R Edwards, Aberystwyth
• Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron
• Canolfan Rheidol, Aberystwyth

Dywedodd Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru, “Rydyn ni wrth ein bodd bod Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi Awr Ddaear WWF eto eleni. Mae'r bywyd gwyllt yr ydym yn caru, o adar y pâl i eirth gwyn, mewn perygl o effeithiau newid hinsawdd, llygredd a gorddefnydd. Dyna pam eleni, yn ogystal â throi goleuadau bant ar 24 Mawrth, rydym yn gofyn i bobl gymryd cam bach i leihau eu heffaith ar y blaned. Gall pawb - unigolion, ysgolion a busnesau - wneud Addewid i’r Blaned gyda #PromiseForThePlanet ar www.wwf.org.uk/cymru/awrddaear.”

Ymunwch a dilynwch yr hashnod #AwrDdaear a #PromiseForThePlanet.

14/03/2018