I nodi Dydd Gwŷl Dewi, mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi 11 o brosiectau cyfalaf newydd ar draws naw Awdurdod Lleol yng Nghymru i gefnogi twf yr iaith Gymraeg. Mae Ceredigion yn un o’r siroedd a fydd yn derbyn cyllid.

Mae £5.7m wedi cael ei ddyrannu i greu Canolfan Drochi Iaith Gymraeg a bloc o ystafelloedd dosbarth a fydd yn ychwanegu lle i 30 o ddisgyblion ychwanegol yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

Mae’r cyllid, sydd werth cyfanswm o dros £30 miliwn ar draws Cymru, wedi’i anelu at gynyddu capasiti mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd a chefnogi’r gwaith o drochi disgyblion yn yr iaith yn gynnar yn ogystal â helpu dysgwyr o bob oed i wella’u sgiliau a meithrin hyder yn y Gymraeg.

Bydd £1.2m ychwanegol hefyd yn cael ei roi i’r Urdd ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd, a hynny er mwyn cefnogi’r mudiad ieuenctid i barhau â’i weithgareddau ar ôl i Covid-19 amharu arnynt.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Mae cyhoeddiad heddiw yn newyddion gwych i ni yng Ngheredigion, a bydd yn helpu i roi hwb i’n gweledigaeth o gryfhau’r Gymraeg yn ein cymunedau. Dydd Gŵyl Dewi Hapus!”

I ddarllen y datganiad llawn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, ewch i: https://llyw.cymru/prosiectau-mawr-newydd-yn-cael-eu-cyhoeddi-i-helpu-twf-yr-iaith-gymraeg

01/03/2022