Mae Tîm Pobl Ifanc Egnïol Ceredigion Actif wedi dechrau darlledu sesiynau gweithgareddau dwyieithog yn ddyddiol ar gyfer plant a phobl ifanc Ceredigion.

Mae’r sesiynau yn ymateb uniongyrchol yn sgil cau’r ysgolion ar ôl y gwyliau Nadolig. Caiff y sesiynau eu darlledu’n fyw am 9:30am bob dydd Llun i ddydd Gwener, a byddant yn parhau tan hanner tymor mis Chwefror.

Gellir gweld pob sesiwn yn fyw ar YouTube neu Facebook, ac maent hefyd yn cael eu harbed i Microsoft Teams ar Hwb fel bod modd eu gwylio neu eu hailwylio ar ddyddiad arall.

Bob dydd, mae staff y Tîm Pobl Ifanc Egnïol yn dilyn y rhaglen ‘Ffit yn 5’ y mae ysgolion Ceredigion eisoes yn gyfarwydd â hi, lle bydd pum gweithgaredd gwahanol yn cael eu dewis bob dydd. Bydd hyfforddwr yn arddangos sut y mae gwneud pob gweithgaredd a gall y plant weithio gyda’i gilydd ar yr un pryd i gwblhau’r sesiwn.

Nod y rhaglen ‘Ffit yn 5’ yw gwella iechyd corfforol a llesiant meddyliol pobl ifanc, a gan fod plant yn cael eu haddysgu gartref ar hyn o bryd, gellir cynnwys hyn yn rhan o’u trefn ddyddiol neu yn rhan o’u gwersi Addysg Gorfforol. Mae bod yn actif yn effeithio’n gadarnhaol ar y gallu i ganolbwyntio, ar gyflawniad ac ar ymddygiad. Yn ystod yr wythnos gyntaf y darlledwyd y fideos, cawsant eu gwylio 2,846 o weithiau.

Dywedodd Carwyn Young, Rheolwr Corfforaethol ar gyfer Canolfannau Llesiant Cyngor Sir Ceredigion: “Mae bod yn actif yn ffordd wych o ddechrau’r diwrnod, a hoffem pe bai cynifer o bobl ifanc Ceredigion â phosibl yn ymuno â ni fel ein bod yn gallu bod yn actif gyda’n gilydd. Rydym yn cydnabod yr heriau all ddod yn sgil addysgu o gartref, felly y gobaith yw y bydd y sesiynau 15 munud o hyd yn helpu i wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at iechyd corfforol, ffitrwydd a llesiant meddyliol ein pobl ifanc, ac yn bwysicaf oll, yn sicrhau eu bod yn cael hwyl ar yr un pryd.”

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Ceredigion, Porth Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant: “Mae’r sesiynau byw dyddiol hyn yn adnodd gwych i annog ac ysbrydoli pobl ifanc i gadw’n heini ac yn iach. Mae cael y siawns i wneud ymarfer corff o’u cartrefi, dan arweiniad hyfforddwyr profiadol ac yng nghwmni eu cyfoedion, yn gyfle heb ei ail i bobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn. Mae modd cymryd rhan ar y pryd, neu wylio yn ôl, ac mae’r gweithgareddau yn fywiog, yn ffres ac yn llawn hwyl.”

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch @CeredigionActif ar y cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch 01545 570881.

18/01/2021