Wrth i ni nodi blwyddyn ers y cyflwynwyd cyfnod clo cyntaf pandemig COVID-19 y Coronafeirws, rydym yn myfyrio ar y gwaith sydd wedi'i wneud i geisio rheoli'r feirws yng Ngheredigion.

O’r cychwyn cyntaf, ein blaenoriaeth oedd diogelu poblogaeth y sir a chadw’r nifer a fyddai’n dal y coronafeirws a nifer y marwolaethau o ganlyniad iddo mor isel â phosib. Ar y dechrau, roedd amcanestyniadau Iechyd Cyhoeddus Cymru o ran y sefyllfa waethaf bosib yn rhagweld y byddai 600 o farwolaethau yn y Sir erbyn Mehefin 2020, ac nid oedd hyn yn dderbyniol i ni.

Sefydlodd Cyngor Sir Ceredigion strategaeth a alluogodd y gweithlu i weithio fel un tîm i geisio atal y feirws. Roedd y staff yn barod i gyflawni pa bynnag ddyletswyddau a ofynnwyd iddynt a chyda chydweithrediad dinasyddion Ceredigion, ni wireddwyd y senarios gwaethaf posib.

Diwrnod o fyfyrio

Mae'r feirws hwn wedi effeithio ar bawb, ac mae ein cymunedau wedi teimlo effaith o salwch ac yn drasig, colli bywydau.

Bydd y Castell, Adeilad Alun R. Edwards a’r Bandstand yn Aberystwyth yn cael eu goleuo yn felyn i nodi pen-blwydd cyntaf ers cyfnod clo y Deyrnas Unedig.

Er mwyn dangos cefnogaeth i’r rhai sy’n galaru, gwahoddir pawb i gymryd rhan mewn munud o dawelwch cenedlaethol am 12pm ar 23 Mawrth.

Diolch

Yn gyntaf, mae’n bwysig cydnabod y 72,000 o drigolion yng Ngheredigion sydd wedi glynu’n arwrol at yr heriau a gyflwynwyd gan y cyfnod clo. Diolchwn i drigolion y sir am ddilyn y canllawiau mewn modd mor gaeth a diwyd, gan sicrhau bod y nifer sydd wedi eu heintio gan y coronafeirws wedi ei gadw’n gymharol isel.

Tîm Ceredigion

Fe wnaethom barhau i ddarparu llawer o’n gwasanaethau hanfodol ar gyfer pobl ein sir. Mae nifer o’r gwasanaethau yma wedi cael eu cefnogi gan staff o wasanaethau eraill sydd wedi gwirfoddoli i gael eu hadleoli. Mae eu parodrwydd i helpu wedi bod yn hanfodol wrth gynnal y gwasanaethau hyn, gan gynnwys rheoli gwastraff, cefnogi ein cartrefi gofal preswyl a’r Canolfannau Gofal Plant.

Y camau cyntaf oedd cael Ceredigion i lawr i’w phoblogaeth graidd, a oedd yn golygu gweithio gyda’r sector twristiaeth a’r Prifysgolion i gau eu cyfleusterau mewn modd diogel ac wedi’i reoli. Rydym yn ddiolchgar i’r rheiny a weithiodd gyda ni i gau dros dro gan olygu y lleihawyd y boblogaeth gan 35,000.

Cyn y cyfnod clo swyddogol cyntaf, caewyd drysau ein cartrefi gofal. Buom yn gweithio’n agos gyda’r cartrefi gofal preifat er mwyn sicrhau diogelwch ein pobl mwyaf bregus ac rydym wedi parhau i wneud hynny. Sefydlodd ein Tîm TGCh gyfleusterau fideo-gynadledda yn y cartrefi er mwyn galluogi’r trigolion i siarad gyda’u hanwyliaid yn rheolaidd.

Datblygwyd system olrhain cysylltiadau yn fewnol gan y Cyngor ddechrau mis Ebrill, a gafodd ei hintegreiddio wedyn â’r system genedlaethol. Mae'r Tîm Olrhain Cysylltiadau yn parhau i berfformio i safon uchel – gan wneud y cyswllt cyntaf hollbwysig hwnnw â'r rhan fwyaf o'r rheini sydd wedi cael canlyniad prawf positif o fewn 24 awr.

Mae ysgolion wedi bod ar gau am oddeutu wyth mis yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae athrawon wedi addasu i gefnogi plant a phobl ifanc i ddysgu o bell. Darparwyd gofal plant i blant gweithwyr gwasanaethau rheng flaen ledled y sir.

Sefydlwyd Hwb Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) i gydlynu'r offer ar gyfer gwasanaethau yn y sir. Cynhyrchodd nifer o'n staff ar draws yr holl ysgolion uwchradd yng Ngheredigion amddiffynwyr wyneb. Sicrhaodd hyn yr ymgymerwyd â'r elfen hanfodol hon o’r ymateb i’r coronafeirws er mwyn cadw gweithwyr rheng flaen a defnyddwyr gwasanaethau’n ddiogel.

Darparwyd £36.6 miliwn o grantiau i fusnesau gan Lywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu a'i ddosbarthu gan staff y Cyngor i fusnesau yng Ngheredigion sy’n hanfodol i economi’r sir. Mae busnesau hefyd wedi derbyn cyngor a chymorth gan Dîm Diogelu’r Cyhoedd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau.

Cysylltodd staff y Cyngor â’r rheiny sy’n agored i niwed ar sail feddygol a’r rhai oedd yn cysgodi er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn derbyn bwyd a meddyginiaeth. Darparodd y Cyngor 900 o focsys bwyd gyda chynnyrch lleol yn wythnosol i’n trigolion mwyaf bregus yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Darparwyd cymorth er mwyn cadw pobl ddigartref oddi ar y strydoedd ac mewn llety dros dro.

Roeddem am greu trefi diogel a deniadol i bobl ddod i siopa a mwynhau. Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio’n araf yn y sir, a gan fod y gofynion o ran cynnal pellter cymdeithasol yn parhau i fod yn bwysig, roedd angen addasu oherwydd rhesymau’n ymwneud ag iechyd y cyhoedd. Rhoddwyd parthau diogel ar waith yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd ym mis Gorffennaf.

Mae ein gwasanaethau cymorth wedi sicrhau bod gwaith yn parhau yn ddiogel ac yn effeithiol o adref. Bu llawer iawn o waith o ran sicrhau bod trigolion a busnesau yn derbyn negeseuon allweddol yn brydlon drwy wefan y Cyngor, ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy weithio mewn partneriaeth â’r wasg a’r cyfryngau leol.

O’r cychwyn cyntaf, mae’r Cyngor wedi cydweithio’n agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Heddlu Dyfed-Powys, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Coleg Ceredigion, busnesau a nifer o grwpiau gwirfoddol ac elusennol er mwyn sicrhau cydweithio a chyfathrebu effeithiol.

Credwn fod y cyfuniad o’r holl ymyriadau hyn, ynghyd â nifer o ffactorau eraill, wedi chwarae rhan wrth gefnogi ein trigolion yng Ngheredigion ac efallai eu bod wedi cyfrannu at y nifer gymharol isel o achosion yn y sir.

Heriau

Fel sir, rydym wedi profi sawl her dros y flwyddyn gydag achosion lluosog a brigiadau yn ein cymunedau, yn ein Cartrefi Gofal ac ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fodd bynnag, mae parodrwydd partneriaid i weithio gyda ni i fynd i'r afael â'r heriau hyn yn gyflym ac yn bendant wedi ein galluogi i reoli'r ymlediad o fewn ein cymunedau. Bu'n rhaid i ni weithredu'n gyflym i sicrhau bod swigod ysgolion a chysylltiadau yn hunan-ynysu pan nodwyd achosion positif mewn ysgolion.

Mae'r Cyngor wedi gwneud penderfyniadau cyflym a phendant ac wedi cymryd camau gyda'n partneriaid i leihau lledaeniad y feirws gymaint â phosibl er mwyn amddiffyn dinasyddion Ceredigion. Rydym yn cydnabod yr aberth y bu'n rhaid i unigolion a theuluoedd ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf.

Symud ymlaen

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwneud cynnydd da o ran cyflwyno'r brechlyn trwy'r grwpiau blaenoriaeth yng Ngheredigion, yn ogystal a darparu’r ail ddos. Maent yn cael cefnogaeth y Cyngor, Prifysgol Aberystwyth ac wrth gwrs y gwirfoddolwyr a wnaeth helpu yn y Canolfannau Brechu Torfol.

Rydym bellach yn canolbwyntio ar reoli’r cyfnod addasu a chydnerthedd hirdymor Ceredigion ar y cyd â’n holl bartneriaid, gan barhau i fod yn wyliadwrus er mwyn cyfyngu ar unrhyw achosion yn y dyfodol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynllunio ar gyfer y cyfnod adfer, gydag economi’r sir yn flaenoriaeth. Rydym i gyd yn gobeithio y bydd cyflwyno'r brechlyn a’r gostyngiad yn nifer yr achosion yn golygu y bydd pethau'n mynd yn ôl at rywbeth sy'n agosach at 'normalrwydd' wrth inni nesáu at yr haf.

Eto, estynnwn ein diolch i bobl Ceredigion. Rydym wedi gweithio fel tîm ac rydym yn parhau i wneud hynny, ac mae’r Coronafeirws wedi profi bod gennym dîm aruthrol yng Ngheredigion.

Mae rhagor o wybodaeth yn ymwneud â’r Coronafeirws ar gael ar dudalen gwe y Cyngor.

23 Mawrth 2021

12/03/2021