Trefnodd swyddogion Cered: Menter Iaith Ceredigion sawl noson o weithgareddau gyda’r Clwb Ieuenctid ‘Ffynnon’ yn Llandysul er mwyn roi cyfleoedd newydd drwy gyfrwng y Gymraeg i’w aelodau hŷn.

Natur y cydweithio oedd cynnal noson hyfforddi i goginio bwyd Thai, ac wedyn yr wythnos ganlynol, defnyddio’u sgiliau newydd yr oeddynt wedi dysgu trwy gynnal noson o fwyd Thai i’r gymuned. Cafodd aelodau ieuenctid hŷn Ffynnon y cyfle i ddiddanu pobl leol trwy gyfrwng y Gymraeg ac annog y rhai oedd yn ddysgwyr yr iaith i gymdeithasu yn y Gymraeg.

Dywedodd Llinos, Swyddog Datblygu Cered, “Roedd y gwaith yma yn gyfle gwych i Cered gydweithio gyda’r Ffynnon, y bobl ifanc yn y clwb a’r gymuned.  Mi wnaethant ddysgu bob math o sgiliau newydd fel coginio bwyd Thai, cynllunio bob elfen o’r noson o wledda, o baratoi’r bwyd, addurno’r stafell, gweini bwyd ac ati.  Roedd hi’n hyfryd gweld y bobl ifanc yn ymgymryd yn eiddgar yn y tasgau ac yn codi hyder o ran gwaith ymarferol a’r cwbl hyn oll drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mi roedd y ddwy noson yn llwyddiannus iawn, ac yr arian a godwyd drwy gynnal y noson wledda yn mynd tuag at brosiectau dyngarol a fydd yn cynnwys taith tramor posib i Zambia er mwyn gwirfoddoli mewn cartref plant yno.

Meddai Steffan o’r Ffynnon, “Yn y Ffynnon yr ydym yn awyddus i roi cyfle i'r ieuenctid nid yn unig i glywed y newyddion da am gariad Duw, ond hefyd arddangos hynny drwy wasanaethu y gymuned leol yma yn Llandysul. Roedd y noson Thai yn brofiad arbennig a gobeithio yn ddechrau ar flwyddyn bythgofiadwy.”

Cafodd y ddwy noson ei redeg gan Siân Davies a Noi Francis. Dywedodd Siân Davies, “Hyfryd oedd cael y cyfle i gydweithio gyda Cered a’r Ffynnon er mwyn dysgu sgiliau newydd gydol oes i’r bobl ifanc, tra hefyd yn cefnogi nhw i godi arian at gynlluniau ei dyfodol. Roedd hi’n bleser i weithio gyda phawb, a wnaethant weithio yn galed iawn i wneud y noson yn llwyddiannus tu hwnt.”

Am fwy o wybodaeth am digwyddiadau a gweithgareddau Cered: Menter Iaith Ceredigion, ewch i'w gwefan, cered.cymru neu eu tudalen Facebook, @ceredmenteriaith. Neu, cysylltwch drwy ffonio 01545 572 358.

21/06/2019