Cyflwynwyd Tystysgrif Gwobr Arian i staff CERED ar sail y gwaith mae’r Fenter yn ei wneud yn helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd.

Mae Gwobr Partneriaid Gwerthfawr, sy’n rhoddedig gan gwmni Gyrfa Cymru, yn cydnabod y cymorth mae CERED yn ei roi i ysgolion a phobl ifanc i’w helpu i ddeall y byd gwaith yn well ac yn fwy penodol pwysigrwydd a gwerth y Gymraeg yn y gweithle. Cyflwynwyd y wobr mewn seremoni wobrwyo arbennig yng Nghaerdydd ar 14 Tachwedd.

Dywedodd Non Davies, Rheolwr CERED, Mae CERED yn bles iawn o gael ei gydnabod fel Partner Gwerthfawr. Mae’r gwaith mae Rhodri Francis a gweddill y staff wedi ei wneud yn cyflwyno sesiynau Cymraeg yn y Gweithle yn hynod bwysig i sicrhau bod ein pobl ifanc yn deall gwerth y Gymraeg. Yn aml mae’r wybodaeth a gyflwynir yn newid agweddau pobl ifanc at y Gymraeg ac yn dylanwadu yn bositif ar eu penderfyniadau wrth ystyried eu dyfodol.”

Mae Gyrfa Cymru yn creu cysylltiadau rhwng addysg a chyflogwyr trwy ddod ag ysgolion a busnesau ynghyd i hysbysu, ysbrydoli a thanio diddordeb pobl ifanc yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Cafodd y Gyfnewidfa Addysg Busnes ei lansio yn 2018, ac erbyn hyn mae’n cynnig cyfle i ysgolion ddod i gysylltiad â dros 13,500 o gyflogwyr ledled Cymru trwy gyfrwng llu o wahanol weithgareddau.

Fel Partner Gwerthfawr, mae CERED wedi gweithio gyda Gyrfa Cymru ers nifer o flynyddoedd bellach gan gyflwyno sesiwn ‘Cymraeg yn y Gweithle’ i ddisgyblion Blwyddyn 9 fel rhan o ddiwrnodau ‘Eich Dewis, Eich Dyfodol’. Caiff y diwrnodau gyrfa hyn eu cynnal ym mhob Ysgol Uwchradd yng Ngheredigion yn flynyddol.

Roedd dros 50 o gwmnïau o bob cwr o Gymru yn bresennol yn y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd, a Jason Mohammed, cyflwynydd BBC Radio Wales, oedd wrth y llyw.

Meddai Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, “Mae cynllun Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn hollbwysig i’r gwaith mae Gyrfa Cymru yn ei wneud, ac rydym wir yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a gawn gan bob un o’n Partneriaid Gwerthfawr. Yn y pen draw, byddem wrth ein bodd pe bai cyflogwyr yn cyfrannu at y cwricwlwm cenedlaethol er mwyn sicrhau y bydd y sgiliau mae myfyrwyr yn eu datblygu yn ddefnyddiol i weithleoedd sy’n esblygu.”

“Heb ein Partneriaid Gwerthfawr, ni fyddai modd i ni gyrraedd cynifer o fyfyrwyr mor gynnar yn y broses, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am hynny.”

I gael mwy o wybodaeth am sut i weithio gyda Gyrfa Cymru i helpu i godi ymwybyddiaeth pobl ifanc a thanio eu diddordeb yn y byd gwaith, e-bostiwch employerengagement@careerswales.co.uk

Yn y llun, o’r chwith: Non Davies, Rheolwr Cered; Llinos Hallgarth a Rhodri Francis, Swyddogion Datblygu Cered.

18/11/2019